fbpx

Wednesday, 28 November 2018

Tafarn y Black Boy

Ewch i lawr Stryd Pedwar a Chwech yng Nghaernarfon ac mae perl o dafarn yn dod i’r Black Boy Inngolwg. Dyma Dafarn y Black Boy, tafarn hynafol sy’n dyddio o 1552, a rhywle y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed amdano.

Mae Tafarn y Black Boy ym Mwrdeistref Ganoloesol Caernarfon, ac mae wedi estyn croeso cynnes i deithwyr blinedig ers canrifoedd lawer.

Arferai fod yn ddwy dafarn sef y ‘King’s Arms’ a’r ‘Fleur de Lys’, cyn i landlord un dafarn brynu’r dafarn arall gan y llall a chreu Tafarn y Black Boy fel y mae heddiw. Cyn 1828, roedd y ‘King’s Arms’ yn adnabyddus fel y ‘Black Boy’.

Byddai llety ar gael i deithwyr blinedig a ddeuai o Fetws y Coed dros y mynyddoedd ym mhob tywydd. Ond yn aml ni fyddai rhai tafarndai yn cynnig moethusrwydd fel dŵr cynnes a gwely go iawn.

Mae Tafarn y Black Boy wedi’i lleoli yn Stryd Pedwar a Chwech, ac mae’n un o’r ychydig dai tafarn rhydd ym Mhrydain i fod yn nwylo busnes teulu. Mae ei waliau hyd at fedr a hanner o drwch, ac mae pedwar arwydd y tu allan yn dangos ‘bwi du’ ar y naill ochr a ‘bachgen du’ ar y llall.

Mae hanes diddorol i enw Stryd Pedwar a Chwech. Y stori yw bod llongwyr yn dod i’r dref i chwilio am ystafell am y noson, ac yn y ‘Black Boy’ gallen nhw gael ystafell am bedair ceiniog, ond am chwe cheiniog gallen nhw gael ystafell, potel o gin a merch ifanc i’w cadw’n gynnes.

Jac Ddu

Mae enw’r dafarn wedi arwain at beth dadlau ac mae tair damcaniaeth o leiaf yn cynnig esboniad ar darddiad yr enw. Mae un yn sôn am fachgen du a ddaeth i’r wlad ar fwrdd llong, un arall yn awgrymu bod yr enw’n cyfeirio at fwi mordwyo a oedd yn yr harbwr yn nyddiau cynnar y Dafarn, a’r drydedd yn sôn am y llysenw a roddwyd i Siarl II gan ei fam a’r ffaith bod Brenhinwyr yn cwrdd yn y dirgel yma yn y cyfnod.

Stryd Pedwar a Chwech

Ychwanegwyd ‘Porth y Gogledd’ ym mhen y stryd tua’r 1820au.

Pan oedd porthladd Caernarfon ar ei anterth, roedd Stryd Pedwar a Chwech yng nghanol ardal y puteiniaid. Am y swm go resymol o ‘bedwar swllt a chwe cheiniog’, gallai rhywun gael ystafell, potel o gin a merch ifanc am y noson!

Gallwch weld rhan o batrwm wal y dref o’r Black Boy, gyda deg tŵr a thri phorth bron yn amhosib i’w goresgyn.  Mae’r tyrrau a’r grisiau cerrig, sy’n dal i fod mewn cyflwr da, yn dyblu trwch y wal i bob pwrpas. Mae Afon Menai, Afon Seiont a Chadnant (bellach mewn cwlfer) yn ei wneud yn Safle Ynysol. Dywedodd James of St. George, Pensaer y Brenin Edward y dylai ei feistr adeiladu ei Gastell a’i Dref ar y safle hwn.  Mae Caernarfon wedi cael ei dynodi’n un o’r Trefi Caerog Canoloesol gorau yn Ewrop.

Y gobaith yw y bydd hi, maes o law, yn bosib cerdded ar hyd y rhan yma o’r wal cyn belled â phorthdy Porth Mawr ynghyd â’r darn o Borth yr Aur at y Tŵr Crogi.

Wrth i Gaernarfon dyfu gyda’r Diwydiant Llechi, yr Argraffdai a’r Marchnadoedd, roedd angen i wagenni mwy o faint ddod i mewn i’r dref, ac felly cafodd y bwa cerrig ym mhen draw Stryd Pedwar a Chwech ei ychwanegu yn y 19eg ganrif i helpu i hwyluso llif y traffig i mewn ac allan o’r hen dref.

Diddordeb archeolegol

Yn y 1990au, yn dilyn gwaith cloddio gerllaw, daethpwyd o hyd i ysgerbwd hen wraig. Daeth yr archeolegwyr i’r casgliad ei bod wedi’i chladdu yno i arbed y gost o drefnu angladd. Yn fwy diweddar, yn ystod gwaith adfer yn Nhafarn y Black Boy, dadorchuddiodd gweithwyr amryw o bethau o dan yr hen lawr pren yn yr ystafell fwyta, gan gynnwys esgid plentyn, mwy nag un cetyn clai ac, yn fwy anghyffredin, esgyrn gên anifeiliaid.

I rai sy’n ymddiddori mewn archeoleg, mae gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd raglen barhaus o gloddio archeolegol oddi mewn i hen furiau’r dref.

Nodwedd ddifyr arall sy’n perthyn i Dafarn y Black Boy yw bod yno ysbryd yn ôl y sôn, sef lleian sy’n pasio drwy’r Dafarn i’r lleiandy, a arferai fod yng nghefn y Dafarn ar un adeg. Does dim tystiolaeth fod Lleiandy wedi bod yng Nghaernarfon, ond roedd Priordy lle mae siop i’w chael bellach.

Porthdy Porth Mawr

Y porth hwn oedd y brif fynedfa i’r hen dref gaerog, felly, roedd wedi’i warchod yn dra gofalus. Fe’i codwyd yn wreiddiol yr un pryd â’r Castell gyda rhagfur allanol a phont godi bren, ond yn ddiweddarach codwyd pont-ffordd sefydlog gyda chwe bwa yn ei lle.

Ystafelloedd at wasanaeth y Trysorlys ym 1284 oedd y rhai uwchben y porthdy, fel y ganolfan weinyddol ac ariannol ar gyfer siroedd Caernarfon, Môn a Meirionnydd. Arferai cloch gyrffyw’r dref gael ei chadw yma’n wreiddiol hefyd. Roedd unrhyw un o’r trigolion a oedd y tu allan i furiau’r dref am 8 o’r gloch yr hwyr yn cael ei gau allan tan 6 o’r gloch y bore canlynol.

Ar un adeg, roedd cloc mawr wedi’i oleuo gan olau nwy gyda phedwar wyneb yn cael ei gadw yn nhŵr uchel y porthdy. Bu’n rhaid tynnu’r cloc am ei fod yn camarwain llongau wrth iddynt geisio mordwyo i mewn i’r harbwr liw nos. Yn y 1830au, roedd y porthdy hefyd yn cael ei ddefnyddio fel lle i gadw pobl dan glo ac fel tŵr gwylio.

Ym 1767, addaswyd y lloriau uchaf i greu neuadd y dref. Mae addasiadau eraill ym 1833 a 1873 wedi eu coffáu gan lechen ym mynedfa’r bwa cerrig. Heddiw mae cynlluniau ar y gweill i wneud yr hen gatws yn ffordd o gyrraedd Taith Waliau’r Dre ac o bosib arddangosfa fach.

Mae’r dafarn yn adeilad rhestredig Gradd II, gan ei bod yn esiampl brin o westy o’r 17eg ganrif sy’n dal yn cynnwys rhai manylion mewnol gwreiddiol.