fbpx

Tuesday, 8 October 2019

Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri – Penwythnos Oes Fictoria: 4 – 6 Hydref

Mae Rheilffordd Ffestiniog, y rheilffordd hynaf yn y byd sy’n dal i redeg trenau, yn gwybod dipyn am wneud taith yn arbennig. Mae’n amgueddfa fyw sy’n rhedeg trenau i deithwyr ers Oes Fictoria, gyda nifer o’r cerbydau hŷn wedi eu cadw’n gariadus. Y Penwythnos Fictoraidd yw’r ffordd orau o weld a chael profiad o’r cerbydau hyn yn yr oes fodern.
Dewch i’r digwyddiad Fictoraidd gorau mis Hydref, cymerwch ran, gwisgwch yn arbennig neu fwynhau’r awyrgylch hiraethus. Bydd Penwythnos Fictoraidd eleni yn cael ei lansio am 09:45 fore Gwener y 4ydd o Hydref a bydd adloniant ar y platfform gyda disgyblion lleol o Ysgol Eifion Wyn, yn canu’n fyw!
Bydd yr orsaf reilffordd yn camu’n ôl mewn amser i gyfnod Oes Fictoria, gyda chymeriadau mewn gwisgoedd o’r cyfnod yn cerdded o amgylch yr orsaf, teithio ar y trenau a bod ar gael i fod yn rhan o ffotograffau. Fe fydd maes parcio Gorsaf yr Harbwr yn llawn dop o stondinau a fydd yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol, bwyd ac anrhegion. Eleni, mae’r Olwyn Fawr yn ychwanegiad arbennig i’r digwyddiad, a bydd yn eich cludo’n uchel i weld golygfeydd anhygoel uwchben yr harbwr a’r dref.
Dewch draw am ddiwrnod gwych i’r teulu, dewch â’ch camera i dynnu lluniau bythgofiadwy, a chamu’n ôl mewn amser os dymunwch!

Prisiau

Prisiau’r Digwyddiad yn unig – Tocynnau Arferol ddim ar gael Safonol Braint
Crwydro 3 diwrnod £70.00 £35.00
Crwydro 1 diwrnod £30.00 £15.00
Llawlyfr y digwyddiad £3.00
Pob tocyn ar gael ar-lein – *Rhaid i aelodau roi eu rhif aelodaeth wrth brynu’r llawlyfr*

Dydd Gwener

Bore Arbennig i Ffotograffwyr
Tu allan i’r Hen Sied – Tocyn £2.00 yn ychwanegol gyda thocyn dydd Gwener neu Docyn Crwydro 3 Diwrnod
08:00 Porthmadog – Ar gael ar-lein
*Mynediad ar y trên yn unig*

Tocynnau Arbennig Beddgelert
3x Taith dwy ffordd i Feddgelert
Tocyn dydd Gwener neu Docyn Crwydro 3 Diwrnod yn unig – DIM TRENAU ERYRI
19:15 – ‘Dau gan Dickens’ gyda Gerald Dickens
Mr Dickens yn dychwelyd i Reilffordd Ffestiniog wrth i Gerald Dickens berfformio dwy act yn seiliedig ar waith ei hen, hen daid – Charles Dickens!
Y gwaith a berfformir – The Signalman, Doctor Marigold
£15.00 Un pris – Ar gael ar-lein – Mynediad ar y trên yn unig
19:40 – 22:15 – Trên Nos ar gyfer Ffotograffwyr – Nifer Cyfyngedig
Trên i Orsaf Minffordd wedi ei logi’n arbennig ar gyfer ffotograffwyr ,
Ffotograffau wedi eu llwyfannu’n arbennig, Goleuo Arbennig
1x Teithiwr ac 1x Trên Nwyddau
Tocyn £10.00 ychwanegol gyda thocyn dydd Gwener neu Docyn Crwydro 3 Diwrnod
– Ar gael ar-lein
*Mynediad ar y trên yn unig*

Dydd Sadwrn

Y cyfnos yng Ngorsaf Minffordd
Gwasanaeth Gwennol gyda’r nos – Cyfleoedd Ffotograffig + Golygfeydd ‘Cameo’
Yn cynnwys ymddangosiad gan Gerald Dickens
*Mynediad ar y trên yn unig* – Rhaid cael tocyn dydd Sadwrn neu Docyn Crwydro 3 Diwrnod

Dydd Sul
08:45 – 09:30 Arddangosfa fore Sul yng Ngorsaf yr Harbwr
Gwasanaeth y Sul – Amser Cinio dydd Sul yng Ngorsaf yr Harbwr – Gwasanaethir gan y Parch Richard Buxton.

Y Tridiau
Teithiau mewn Fan i weld y Trenau Nwyddau *Nifer Cyfyngedig* – 6 taith dros y 6 niwrnod – Gwybodaeth bellach ac archebu yn Swyddfa Archebu Porthmadog yn unig.
Trenau Nwyddau Cymysg ,
Trenau Disgyrchiant – Pedair taith dros y tri diwrnod + Cwch Spooner (Dydd Sadwrn)
Yr Olwyn Fawr ym Maes Parcio Gorsaf yr Harbwr
Stondinau ym Maes Parcio Gorsaf yr Harbwr
Bysiau Gwennol – I’w gadarnhau
Dim Parcio yng Ngorsaf yr Harbwr na Llyn Bach.