fbpx

Wednesday, 2 December 2015

Nadolig

Santa ClausMae’r gwyliau yn dod a gyda’r tymor y Nadolig yn nesáu rydym am rhannu y digwyddiadau a’r gweithgareddau Nadolig gorau yn yr ardal. Os ydych chi wedi ymweld â ni yma yn Nhafarn y Black Boy o’r blaen, byddwch yn gwybod bod ein gwely a brecwast yng Nghaernarfon yn agos i lawer o atyniadau!

Y Nadolig hwn, gallwn edrych ymlaen at amrywiaeth o ddigwyddiadau, pob un ohonynt yn wych i’r teulu i gyd, gan gynnwys y rhai bach. Wrth gychywn yn agos i gartref, mae Castell Penrhyn yn cynnal Cyngerdd Nadolig gyda Chôr Rygbi Gogledd Cymru ar Ddydd Gwener 4 Ragfyr, rhwng 7yh a 10yh.

Gallwch ymuno â Chôr Rygbi Gogledd Cymru gyda ei chyngerdd Nadolig a fydd yn cael eu gynnal yn Neuadd y Gastell. Bydd perfformiad eclectig o gerddoriaeth glasurol a phoblogaidd, yn Gymraeg a Saesneg. Mae archebu lle yn hanfodol a gofalwch eich bod i archebu heddiw i osgoi cael eich siomi.

Yn ychwanegol at y lleisiau hardd Côr Rygbi, mae gan Gastell Penrhyn benwythnos o ddathliadau i edrych ymlaen ato ar 12 a 13 Ragfyr, rhwng 12:00-15:00. Gallwch archwilio’r ystafelloedd eistedd ac Neuadd Fawr y Gastell, a fydd yn cael eu gwisgo ar gyfer Nadolig Fictoraidd. Darganfyddwch sut byrddau yn cael eu gosod amser maith yn ol., eu traddodiadau Nadolig, ond hefyd i rannu traddodiadau eich hun.

Ar gyfer teuluoedd ifanc bydd gweithgareddau hwylus dros gydol y ddau ddiwrnod, gyda’r cyfle i weld y dyn llawen ei hun – Siôn Corn. Tocynnau yn costio £ 5 y plentyn os ydynt yn dymuno ymweld a Siôn Corn ac yn rhannu eu ofynion Nadolig.

Wrth i’r Nadolig ddod yn nes pob dydd, mae llawer ohonom yn disgwyl yn eiddgar am y dydd pan fyddwn yn gallu dechrau gwisgo ein coed. Unwaith bydd hi’n 1af o Ragfyr yna bydd y plant (a’r oedolion) yn cael chwythu’r addurno’r goeden, nes ei bod yn un bert. O’r dyddiad yma ymlaen, gallwch ymweld a Gerddi Bodnant am hyd yn oed mwy o hwyl Nadoligaedd.

Ar y 6ed o Ragfyr yng Ngerddi Bodnant yng Nghonwy, mi fydd yna Diwrnod Addurno Coed. Rhwng 11:00-15:00 gallwch wneud addurn syml o wahanol ddeunyddiau naturiol i’w hongian ar y goeden,

yn ogystal a dod i wybod am yr holl fathau o goed anhygoel yng Ngerddi Bodnant. Mae cymaint i’w weld, gwneud a mwynhau y Nadolig hwn yng Nghaernarfon. Ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a rhannu eich lluniau Nadoligaidd gyda ni!