fbpx

Monday, 23 July 2018

Llefydd i Fwynhau’r Heulwen yng Ngogledd Cymru

“Ydych chi’n cofio Haf 2018″

Mae tymor yr haf ar ei anterth erbyn hyn – ac y mae wedi bod yn haf i’w gofio! Dyma’r cyfnod o dywydd poeth hiraf ers 1976, a does dim i awgrymu ei fod ar fin dod i ben. Felly, rydyn ni wedi penderfynu llunio rhestr o fannau lleol prydferth a thawel y gallwch fynd iddynt i fwynhau’r heulwen a bod yn un â natur ar ddiwrnod braf o haf.

Y 5 lle gorau i fwynhau’r heulwen

Traeth Niwbwrch, Ynys Llanddwyn

Dydy’r traeth hwn ddim yn cael digon o glod ymhlith traethau’r DU. Yn gefndir iddo, mae llwyth o goed pinwydd trawiadol o Gorsica y byddai Napoleon ei hun yn falch ohonynt, yn ogystal â mynediad i deyrnas hudol Ynys Llanddwyn. Ar wahân i hynny, mae traeth Niwbwrch i gyd yn nefoedd o dwyni tywod, ac yno gallwch syllu ar y gorwel disglair ac edmygu’r olygfa.

Gallwch ymdrochi yn y môr clir i oeri’ch corff yn y tywydd tanbaid yma. Mae’n hawdd cyrraedd y traeth drwy fynd am daith fer yn y car ar hyd glannau’r Fenai o’n gwesty o’r 16eg ganrif yn Eryri.

snowdonia hotels

Dinas Dinlle

Mae traeth trawiadol Dinas Dinlle yn lleoliad yr un mor hyfryd. Mae yma gyfuniad o gerrig a thywod i’w mwynhau a gallwch dreulio’r diwrnod yn gwneud beth bynnag a fynnoch.
Mae Dinas Dinlle hefyd yn adnabyddus am ei phoncen fawr, ac oddi arni gallwch weld golygfeydd panoramig o’r tirlun a’r môr o’i chwmpas.

Pont Ogwen

Yma, gallwch fwynhau traeth mewndirol poblogaidd Dyffryn Ogwen. Mae’n lle delfrydol i dreulio diwrnodau poeth – ar lannau’r dyfroedd diog wrth ymyl y coed gwyrddion tlws, sy’n rhoi rhywfaint o gysgod rhag y gwres.

Portmeirion

Cafodd y pentref Eidalaidd hwn ei greu gyda’r gobaith y byddai’n lle delfrydol i fynd am drip oddi cartref.

Traeth yr Eifl

Mae’r traeth gorllewinol yn cael ei gysgodi gan glogwyn monolithig enfawr, a mynydd yr Eifl sy’n disgleirio’n llachar ac yn tynnu’ch llygaid at ei fan ar yr arfordir. Mae’n 564 metr uwchlaw’r  arfordir a hwn yw’r mynydd mawr olaf wrth i chi symud oddi wrth fynyddoedd Eryri. Felly traeth yr Eifl yw’r enw a roddir ar y traeth. Traeth creigiog ydyw oherwydd mai cerrig mân yw’r rhan fwyaf ohono – ond peidiwch â phoeni, mae ambell fan tywodlyd. Mae’r traeth tua 5 munud ar droed o bentref Trefor – sy’n gyfleus. Mae’n hygyrch ac nid yw’n bell o Gaernarfon na Phwllheli. Traeth gwych i gŵn.