fbpx

Wednesday, 26 April 2017

Hanes

snowdonia hotelMae gan gogledd Cymru gymaint o hanes, guda llawer ohono wedi cael ei gadw yn saff o fewn yr adeiladau ac ardaloedd o tir ddigyffro sydd i’w gweld ar hyd a lled – yn enwedig o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynyddu twristiaeth i’r ardal trwy greu ymgyrch a oedd yn canolbwyntio ar y cyfoeth o weithgareddau a chyfleoedd antur yma. Ar ôl y llwyddiant yr ymgyrch, eleni maent yn canolbwyntio ar hyrwyddo hanes Cymru, ac y chwedlau sydd wedi dod i’r amlwg.

 

Mae Eryri a’r cyffiniau wedi bod yn lleoliad ar gyfer llawer o straeon gwerin Cymru, gan gynnwys y rhai o Gelert y ci ffyddlon ym mhentref Beddgelert ac Santes Dwynwen yn Ynys Llanddwyn.

P’un a ydych yn lleol i’r ardal neu yn ymwelwr i Gymru, beth am gymryd yr amser i ymweld y meysydd hyn a chael gwybod Snowdonia Hotelmwy am ein hanes yma? Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am ein chwedlau Cymreig lleol, mae gennym amrywiaeth ar ein tudalen Blwyddyn Chwedlau 2017.

 

Mae ein gwesty ni gyda digon o hanes ei hun, gyda ei leoliad o fewn muriau’r dref Caernarfon ac ytn cael ei dyddio holl ffordd yn ôl i ddechrau’r 16eg ganrif. Mae yn un o’r tafarndai hynaf yng Nghymru, ac er bod hanes ei enw yn parhau i fod yn ddirgelwch, mae yna ychydig o ddamcaniaethau sy’n ymddangos i gyd-fynd.

Mae un ddamcaniaeth yn awgrymu bod bachgen wedi cael ei ddwyn i Gaernarfon ar long, a ddaeth yn adnabyddus fel ‘Blac Jac’ mewn llawer o straeon lleol, un arall yn awgrymu bod enw’r dafarn yn syml yn cyfeirio at fwi mordwyo y gellid ei weld yn yr harbwr.

 

Gyna hanes sy’n ymestyn dros bron i 500 mlynedd, mae’n anhygoel i feddwl am y mathau o bobl sydd wedi camu troed o fewn y dafarn dros y blynyddoedd i fwynhau diod adfywiol neu efallai am le i gysgu am y noson.

Rydym yn sicr yn gefnogwr o gadw pethau traddodiadol yn y dafarn, a dyna pam ein bod wedi gwneud yn siŵr bod ein hystafelloedd wedi cynnal eu swyn traddodiadol eto gyda’r holl pethau moethus modern byddech yn disgwyl eu gweld mewn gwesty.