fbpx

Wednesday, 1 February 2017

Dydd Gŵyl Dewi

Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac yr ydym yn dathlu ei fywyd ar Fawrth 1af – Dydd Gŵyl Dewi – bob blwyddyn.

Er nad oes neb yn gwbl siŵr o flwyddyn geni Dewi Sant, bu’n byw yn y 6ed Ganrif, ac mae rhai pobl yn honni iddo fyw nes yn 100 oed. Mae ei ddyddiadau geni a marw yn amrywio rhwng tua 462 – 589 OC, ac mae’n gymharol ddiogel i feddwl fod unai y dyddiad geni yn hwyrach na hyn, neu’r dyddiad marw’n gynharach, gan ei fod yn annhebygol iddo fyw nes yn 127 oed!

Baner croes aur ar gefndir du Baner Dewi Sant.
Ganwyd Dewi, yn ôl y sôn, yn ne Ceredigion neu yng ngogledd Sir Benfro, ac yn wahanol i nawddseintiau eraill gwledydd Prydain – mae cryn dipyn o wybodaeth ar gael am ei fywyd, ac mae’n frodor o’r wlad y mae’n nawddsant arni.

Mae’n debyg i San Siôr (Saint George, nawddsant Lloegr) gael ei eni yn Cappadocia – sydd bellach yn rhan o ddwyrain Twrci; credir mai Cymro neu Albanwr oedd San Padrig (Saint Patrick, nawddsant Iwerddon); a ganed Sant Andrew (nawddsant yr Alban) yng Ngwlad yr Iorddonen.

Ei eni o dras frenhinol Roedd mam Dewi, Non, yn lleian ac yn ferch i bennaeth lleol a’i dad, yn ôl yr hanes, yn fab i Ceredig, tywysog Ceredigion. Mae un chwedl hefyd yn dweud fod Non yn nith i’r Brenin Arthur.

Mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei wybod am Dewi yn dod o waith Rhigyfarch ap Sulien, awdur o’r 11eg ganrif a ysgrifenodd ‘Buchedd Dewi’. Gan i waith Rhigyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw’r hanes.

Addysg, a chrefydd Mae’n debyg i Dewi gael ei addysg yn Llanilltud Fawr, ac yn ôl Rhigyfarch, adferodd Dewi olwg ei diwtor Sant Paulinus. Daeth yn ffigwr blaenllaw yn yr Eglwys Geltaidd, a sefydlodd fynachlog yn y porthladd Rhufeinig ‘Menevia’ yn Sir Benfro – yn ddiweddarach daeth y lle hwn yn ddinas gadeiriol wedi ei henwi ar ôl Dewi – Tyddewi.

Y bregeth ar y bryn Mae nifer o chwedlau yn ymwneud â Dewi, ond efallai mai’r enwocaf yw’r bregeth yn Llanddewi Brefi, Ceredigion. Casglodd torf anferth i wrando ac roedd llawer yn cwyno nad oeddent yn gallu gweld na chlywed beth oedd yn digwydd.

The symbol of St David.

Dywed y chwedl i Dewi osod hances ar y llawr cyn sefyll arni, ac yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi fel y gallai pawb ei weld. Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, yn arwydd gan Dduw o’i sancteiddrwydd.

“Gwnewch y pethau bychain…” Rhai o eiriau olaf Dewi cyn iddo farw oedd ei rai enwocaf. Cofnodwyd ei bregeth olaf yn Llyfr Ancr Llanddewibrefi o’r 14eg Ganrif: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i’.

Darganfuwyd esgyrn dynol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1996, a honnwyd y gallai’r esgyrn fod yn rhai neb llai na Dewi Sant. Fodd bynnag, yn dilyn profion, cadarnhawyd mai olion canoloesol llawer diweddarach oedd wedi eu canfod.

Roedd Dewi yn ffigwr canolog yn natblygiad Cristnogaeth yng ngwledydd Prydain Baganaidd ac roedd ganddo gysylltiadau cryf ag Iwerddon.

Dydd Gŵyl Dewi Dywed Rhigyfarch i Dewi fynd ar bererindod gyda dau o seintiau eraill Cymru, Teilo a Phadarn, i Jerwsalem lle cafodd y tri eu cysegru yn esgobion ac y cafodd Dewi ei urddo yn archesgob.

Daeth ei fynachlog yn ganolfan ysbrydol pwysig ac erbyn y 12fed Ganrif roedd Tyddewi yn ganolfan i esgobaeth oedd yn ymestyn dros hanner Cymru. Cafodd Dewi ei hun ei gydnabod yn arweinydd y Brythoniaid ac mae’r gerdd Armes Prydein o’r 10fed ganrif yn sôn am ‘faner’ Dewi fel baner y cynghreiriad yn erbyn y Saeson.

Mae’n debyg iddo ddod yn nawddsant i’r Cymry am fod cynifer o eglwysi hynafol Cymru wedi eu cysegru iddo a’i Ŵyl Mabsant yn cael ei dathlu mewn mwy o eglwysi nag unrhyw un o’r seintiau eraill.

Mae rhai yn honni fod Mawrth 1af, dyddiad ei farwolaeth, wedi ei ychwanegu i galendr yr Eglwys pan ganoneiddwyd Dewi gan y Pab Callistus II yn 1120 ond mae’r dyddiad yn cael ei nodi fel Dydd Gŵyl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o’r 9fed Ganrif hefyd.

St Davids Day - Hotels in SnowdoniaPlanhigyn lluosflwydd o’r genws Narcissus yw’r genhinen Bedr (lluosog: cennin Pedr). Mae gan y rhan fwyaf o’r math hwn flodau melyn, mawr. Allan o fylbiau y maent yn egino a’u tyfu a hynny fel arfer yn y gwanwyn cynnar.

Y genhinen Bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru.

Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw’r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir Eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru a hefyd ym Mhatagonia.

Y mwyaf yw’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae’r Orsedd yn gysylltiedig â’r Eisteddfod yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n ŵyl symudol.

Creadigaeth gymharol fodern yw’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n esiampl o sut mae gwladgarwch a’r dymuniad i ail-greu traddodiad yn cydorwedd yn daclus yn aml. Efelychiad ohoni yw gŵyl yr Urdd a sefydlwyd yn 1929 ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a sefydlwyd yn 1947.

Daeth Eisteddfod y Glowyr i ben yn 2001 (sefydlwyd 1948) wrth i’r diwydiant glo hefyd farw. Bu’r eisteddfod hefyd yn nodwedd bwysig ar ddiwylliant cymunedau o Gymry alltud yn Lloegr, Awstralia, Gogledd America, Patagonia, a De Affrica.