fbpx

Wednesday, 25 January 2017

Diwrnod Santes Dwynwen

St Dwynwen's DayYng Nghymru rydym yn dathlu Gŵyl Santes Dwynwen mewn ffyrdd tebyg i ddydd San Ffolant, gyda chariadon yn cyfnewid anrhegion ac yn mwynhau swperi rhamantus. Mae Dydd Santes Dwynwen yn disgyn ar 25fed o ionawr bob blwyddyn.

 

Dwynwen yw nawddsant cyfeillgarwch a chariad Cymru. Yn sant o’r 5ed ganrif, yn ôl pob sôn, hi oedd yr harddaf o 24 merch y brenin Brychan Brycheiniog.

 

Syrthiodd mewn cariad gyda dyn ifanc o’r enw Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi un arall.

Pan glywodd Maelon am hyn, mewn tymer angerddol, ymosododd ar Dwynwen. Dyma hi’n ffoi i’r goedwig lle ymbilodd ar Dduw i wneud iddi anghofio am Maelon.

Ar ôl iddi syrthio i gysgu cafodd ei ymweliad gan angel yn cario edlyn melys o anghofrwydd, ac un a fyddai’n troi Maelon i rew.

Pan ddihunodd, gwelodd beth oedd wedi digwydd. Yna rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Dymunodd ddadmer Maelon, dymunodd bod Duw yn cwrdd â gobeithion a breuddwydion cariadon ac na fyddai hi fyth yn priodi.

Cafodd y tri eu bodloni, ac addunedodd Dwynwen weddill ei bywyd i wasanaethu Duw. Mae olion ei eglwys i’w gweld yn Llanddwyn yn ne orllewin Ynys Môn. Ger yr eglwys, yn edrych dros y môr, mae yna ffynnon, a elwir yn  Ffynnon Santes Dwynwen. Mae wedi bod yn gyrchfan i bererinion cariadus ers canrifoedd lawer.