fbpx

CANSLO YSTAFELL

Llenwch y ffurflen isod i roi gwybod i’r gwesty eich bod yn dymuno canslo eich archeb. Os byddwch yn canslo neu’n addasu’r archeb o leiaf 48 awr cyn cyrraedd, ni chodir ffi (yn amodol ar y pecyn a archebwyd).

Os byddwch yn canslo neu’n addasu’r archeb o fewn 48 i gyrraedd, neu ddim yn troi fyny, bydd rhaid i chi dalu cost eich archeb yn llawn.

Pan fyddwn wedi canslo eich archeb, byddwch yn cael e-bost yn cynnwys eich cyfeirnod canslo. Cadwch yr e-bost hwn fel prawf. Dylech chi gael cadarnhad gennym o fewn 24 awr, os nad yw hyn yn digwydd ffoniwch ni ar 01286 673604 neu ailanfon y ffurflen. Cysylltwch â ni os na chewch chi ateb.

Rhaid canslo archebion asiant, hy Booking.com, Expedia ac ati, drwy’r asiant.

Gwiriwch ddisgrifiad eich cyfradd cyn canslo bob amser, oherwydd does dim modd canslo pob math o archeb.

Os na fyddwch yn anfon cais canslo, bydd rhaid i chi dalu cost eich archeb yn llawn.