fbpx

Telerau ac Amodau – Wedi’u diweddaru yn sgil Covid

Polisi Archebion a Chanslo:
Gellir archebu ar-lein yn www.Black-Boy-Inn.com

E-bostiwch ni ar reception@black-boy-inn.com i ganslo cyn y cyfnod rhybudd o 48 awr. Os na fyddwch chi wedi cael cadarnhad o fewn 24 awr i anfon y cais, ffoniwch ni ar 01286 673604. Ni fydd rhaid talu i ganslo neu addasu o leiaf 2 ddiwrnod cyn y dyddiad cyrraedd (yn amodol ar y gyfradd a ddewiswyd). Os byddwch yn canslo neu’n addasu o fewn 48 i gyrraedd, neu ddim yn troi fyny, bydd rhaid i chi dalu cost eich archeb yn llawn.

Rydym yn cadw’r hawl i godi pris llawn yr archeb 2 ddiwrnod cyn i chi gyrraedd.

Os ydych chi wedi canslo eich archeb, byddwch yn cael e-bost yn cynnwys eich cyfeirnod canslo. Cadwch yr e-bost hwn rhag ofn y bydd angen cyfeirio ato yn y dyfodol. Wrth e-bostio, nodwch gyfeirnod eich archeb a’ch enw yn y pwnc, a defnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd wrth archebu’n wreiddiol.

Rhaid canslo archebion asiant, hy Booking.com, Expedia ac ati, drwy’r asiant.

Gwiriwch ddisgrifiad eich cyfradd cyn canslo bob amser, oherwydd does dim modd canslo pob math o archeb.

Mae modd gweld fideo o’r dafarn ar y ddolen iso


Cyrraedd/Gadael:
Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer gwesteion sy’n cyrraedd yn gynnar, ond does dim modd i ni sicrhau y bydd eich ystafell yn barod cyn 3.00pm. Sylwch mai 11.00am yw’r amser gadael.
Ni fydd y tîm glanhau yn dod i mewn i’r ystafell o gwbl yn ystod eich arhosiad. Mae hyn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Os oes angen rhagor o unrhyw beth yn yr ystafell arnoch chi, ffoniwch y dderbynfa ar 888. Gadewch dywelion budr ac ati y tu allan i ddrws eich ystafell a bydd rhai glân yn cael eu gadael i chi.  


Parcio Ceir:
Mae’n bosib y bydd tâl o £10 y dydd yn cael ei godi (yn amodol ar y pecyn a archebwyd).

Mae’r maes parcio bach wrth ymyl y dafarn yn berchen i’r cyngor ac yn cael ei gadw i ddeiliaid bathodyn glas. Bydd y rhai sy’n cyrraedd gyntaf yn cael trwydded am ddim o’r dderbynfa ar gyfer maes parcio Cei Llech ger Castell Caernarfon, tua 100 llath i ffwrdd (os oes rhai ar gael). Bydd y rhai sy’n cyrraedd yn nes ymlaen yn cael eu cyfeirio i fannau eraill mewn amrywiol leoliadau yn y dref.

Hyn a hyn o fannau parcio sydd gennym, felly mae’n rhaid i ni gymryd gofal wrth ddyrannu lleoedd. Mae meysydd parcio cyhoeddus yn y dref lle nad oes rhaid talu rhwng 4.30pm a 10am y diwrnod canlynol.

Bydd ceir mwy o faint yn cael trafferth troi yn y maes parcio bach wrth ymyl y dafarn.


Archebu Bwrdd:  Cyfeiriwch at ein gwasanaeth archebu bwrdd.   


Wi-Fi :
Mae Wi-Fi ar gael am ddim ym mhob ardal drwy system gofrestru e-bost sydd ar gyfer eich diogelwch chi a’n diogelwch ni, a hynny rhag hacwyr a materion diogelwch eraill. Mewngofnodwch i Black-Boy-Am-Ddim-Free-WiFi a rhoi eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.

Mae croeso i chi gysylltu â Thafarn y Black Boy yn uniongyrchol os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu addasiadau o ran eich archeb.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i Dafarn y Black Boy cyn bo hir.