fbpx

Polisi Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni; o dan y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol penodol mewn cysylltiad â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu a’i phrosesu. Mae rhagor o fanylion am GDPR ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/). At ddibenion GDPR, ni fydd “rheolydd” yr holl ddata personol rydym yn eu dal amdanoch.

Pryd ydym ni’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch? Nid yw ein gwefan yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n ei defnyddio oni bai eich bod yn rhoi eich manylion i ni o’ch gwirfodd, er enghraifft:

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen ymholi ar ein gwefan

Pan fyddwch yn cysylltu â ni dros e-bost gan ddefnyddio dolen e-bost ar ein gwefan

Pan fyddwch yn archebu llety ar ein gwefan.

Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei storio ar ein gwefan.

Ymholiadau all-lein a chwsmeriaid

Yn ogystal â hynny, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gennych os byddwch yn cysylltu â ni i ymholi ynghylch ein gwasanaethau ar y ffôn, mewn neges destun neu lythyr; ac os byddwch yn archebu nwyddau neu wasanaethau gennym fel rhan o broses archebu (all-lein).

Pa wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei chasglu amdanoch? Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ein gwefan, byddwn yn casglu eich enw a’ch manylion cyswllt gan gynnwys eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif(au) ffôn cyswllt, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol yn ôl y ffurflen ymholi benodol rydych wedi’i llenwi, fel y nodir yn glir ar y ffurflen. Ymholiadau all-lein a chwsmeriaidOs byddwch yn dod yn gwsmer bydd angen i ni gasglu gwybodaeth ychwanegol gennych gan gynnwys eich enw, eich manylion cyswllt llawn (cyfeiriad(au), rhif(au) ffôn, cyfeiriad e-bost) a manylion talu.

 

Beth ydyn ni’n ei wneud â’ch gwybodaeth bersonol? Bydd y wybodaeth bersonol a roddir wrth wneud ymholiad ar-lein yn cael ei defnyddio i ateb eich ymholiad yn unig. Ymholiadau all-lein a chwsmeriaid Os ydych yn gwsmer, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i helpu i gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt, at ddibenion bilio a chyfrifyddu, i weinyddu ein gwasanaethau ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, ac i roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaethau neu ein telerau.

Yn ogystal â hynny, rydych yn cytuno y cawn rannu eich gwybodaeth bersonol fel a ganlyn:

Gyda’n cyflenwyr a’n his-gontractwyr (gan gynnwys proseswyr taliadau) lle bo angen gwneud hynny i weithredu unrhyw gontract yr ydym wedi ymrwymo iddynt gyda nhw i ddarparu’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt.

Yn achos trosglwyddo busnes (gwerthu neu gaffael) pan fydd angen datgelu gwybodaeth bersonol i sicrhau parhad gwasanaethau.

Pan fydd dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith neu orfodi ein telerau defnyddio neu ein telerau ac amodau ar gyfer cyflenwi nwyddau neu wasanaethau; neu i ddiogelu ein hawliau, ein heiddo neu ein diogelwch ni, ein cwsmeriaid neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau neu sefydliadau eraill i ddibenion gwarchod rhag twyll ac ymchwilio i statws credyd.

 

Defnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata Byddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol. Ni fyddwn yn anfon negeseuon e-bost marchnata atoch oni bai eich bod wedi cydsynio’n benodol i hynny. Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i drydydd partïon at unrhyw ddiben marchnata oni bai fod hyn wedi’i nodi’n glir ar y wefan a/neu’r ffurflen ymholi berthnasol pan fyddwn yn casglu gwybodaeth gennych, a’ch bod wedi cydsynio’n benodol.

Pan fyddwn yn cynnal gweithgareddau marchnata gan ddefnyddio cyfuniad o negeseuon e-bost, post, ffôn ac SMS, bydd cyfle i chi nodi pa rai (os o gwbl) yr ydych yn cydsynio iddynt.

Os ydych chi wedi rhoi eich cydsyniad ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, cewch dynnu hwn yn ôl ar unrhyw adeg; naill ai drwy gysylltu â ni neu, ar gyfer negeseuon e-bost, drwy ddad-danysgrifio gan ddefnyddio’r ddolen a ddarperir.

 

Trosglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i’r UE Fel rhan o’n gweithrediadau marchnata a gwasanaethau i gwsmeriaid, mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth benodol y tu allan i’r UE. Yn unol â chyfraith yr UE, byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol dim ond i gwmnïau sy’n cynnig yr un lefel o breifatrwydd a diogelu data ag sy’n ofynnol o dan gyfraith yr UE. Yn benodol, rydym yn defnyddio:

MailChimp – ar gyfer negeseuon e-bost marchnata seiliedig ar gydsyniad. Polisi Preifatrwydd: https://mailchimp.com/legal/privacy/

 

Mae eich hawliau yn cael eu gorfodi ac rydym wedi ymrwymo iddynt, gan sicrhau mai dim ond gwybodaeth hanfodol sy’n cael ei storio gennym a bod unrhyw wybodaeth sydd yn cael ei storio yn gywir ac yn gyfredol. Ar ben hynny, mae gennych hawliau penodol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol:

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata ac i dynnu’r cydsyniad hwnnw (os yw wedi’i roi) yn ôl ar unrhyw adeg.

Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gywiro unrhyw wallau.

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch.

Mae gennych yr hawl i gopïo neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch i ddarparwr arall.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Sylwch fod rhai cyfyngiadau’n berthnasol, er enghraifft mae’n rhaid i ni gadw cofnodion digonol at ddibenion cyfrifyddu am gyfnod o saith mlynedd.

Cyfeiriwch unrhyw geisiadau sy’n ymwneud â gwybodaeth bersonol at ein Rheolydd Data:

Mrs Vicky Rose Owen

Adran Adnoddau Dynol
Black Boy Inn Caernarfon Ltd
Stryd Pedwar a Chwech
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1RW
hr@black-boy-inn.com
01286 673604

Cadw data Ni fyddwn yn storio eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hirach nag sydd rhaid. Mae Cyllid a Thollau EM yn mynnu ein bod yn cadw gwybodaeth ddigonol at ddibenion cyfrifyddu am gyfnod o saith mlynedd. Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd heb roi rhybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghorir i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd am unrhyw ddiwygiadau.

Cafodd y Polisi Preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Mai 2018.

POLISI CWCIS

Mae ein gwefan gwneud defnydd cyfyngedig o gwcis. Ffeiliau testun bach yw cwcis, sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae’r mathau o gwcis yn cynnwys:

Cwcis sesiwn – mae’r rhai yn aros ar eich cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn yn ystod un sesiwn bori, er enghraifft i gofio’r eitemau mewn basged siopa. Nid ydynt yn aros ar eich cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn ar ôl i chi gau eich sesiwn bori.

Cwcis parhaus – mae’r rhain yn aros ar eich cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn rhwng sesiynau pori, er enghraifft i’ch dilysu chi neu i gofio eich dewisiadau.

Cwcis parti cyntaf a chwcis trydydd parti – mae cwcis parti cyntaf yn cael eu gosod gan y wefan rydych chi’n ymweld â hi. Mae cwcis trydydd parti yn cael eu cyhoeddi gan wefan wahanol.

Mae’r cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE a fabwysiadwyd gan y DU yn ei Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig ar 16 Mai 2016.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio’r ddau fath canlynol o gwcis:

Cwci ID Sesiwn – mae’r cwci hwn yn caniatáu i’r gweinydd gwe sy’n lletya ein gwefan ymateb i’ch gweithrediadau ar y wefan, er enghraifft darparu tudalennau wrth i chi bori. Mae’r cwci hwn yn cael ei dynnu’n awtomatig o’ch cyfrifiadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn pan fyddwch yn dod â’ch sesiwn bori i ben.

Cwcis Google Analytics – mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan Google Analytics i gynhyrchu ystadegau dienw ar gyfer ymwelwyr gwefannau. Mae’r wybodaeth y mae Google Analytics yn ei chasglu yn cynnwys dyddiad ac amser yr ymweliad, y tudalennau a borwyd, faint o amser a dreuliwyd ar y tudalennau hynny, cyfeiriad IP, math o gyfrifiadur a phorwr, a sut roeddech wedi cyrraedd ein gwefan (e.e. drwy beiriant chwilio neu o wefan arall). Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn; mae’n cael ei chasglu dim ond i ni allu deall sut mae pobl yn canfod ac yn defnyddio ein gwefan, ac i’n helpu i wella ein gwefan a’n gwasanaethau.

Mae polisi preifatrwydd Google Analytics ar gael yma: https://support.google.com/analytics/answer/6004245?hl=en

Drwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn cytuno y cawn osod y mathau hyn o gwcis ar eich cyfrifiadur neu eich dyfais.

Rhwystro cwcis

I ddysgu mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i’w rheoli, eu dileu a’u rhwystro, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd heb roi rhybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghorir i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd am unrhyw ddiwygiadau.

Cafodd y Polisi Cwcis hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Mai 2018.

 

Fersiwn 1 05.18