fbpx

Bar Cwrw Crefft

Os ydych chi wrth eich bodd ar gwrw, Tafarn y Black Boy yw tafarn eich breuddwydion. Mae ein 20 o dapiau’n cynnwys cwrw casgen a baril o rai o fragdai annibynnol mwyaf blaengar y byd, ac mae’r dewis yn newid o hyd felly bydd rhywbeth gwahanol i’w flasu ar bob ymweliad.

Dyma rai o’n hoff fragdai: Magic Rock, Beavertown, Brooklyn, Cantillon, Darkstar, Tiny Rebel, Brodies, Flying Dog, Buxton, Marble, Camden Town, Thornbridge, Red Willow, Pressure Drop, Redemption, Mikkeller, The Kernel, a llawer mwy.

Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein bariau traddodiadol gyda’u nenfydau isel, trawstiau derw trwm, waliau cerrig trwchus a thanllwyth o dân.​

Bwydlen frecwast

Gweld ein bwydlen

Rhestr winoedd

Gweld ein rhestr winoedd

Rhestr wisgi

Gweld ein rhestr wisgi

​Ein Cwrw

Mae’n bleser gennym weini cwrw, seidr, lager a gwin o’r safon ucha’ – ac mae llawer ohonyn nhw’n cael eu bragu yma yng ngogledd Cymru. Yn Nhafarn y Black Boy, rydyn ni’n falch iawn o’n bar ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod yn darparu amrywiaeth dda o gwrw i chi eu mwynhau.

Yma fe welwch chi rywfaint o’r cwrw sydd gennym ac rydyn ni’n gweini mathau newydd yn barhaus – felly galwch heibio i roi cynnig ar ein ffefrynnau diweddaraf! Tarwch olwg ar ein tudalen Facebook i weld pa gwrw sydd gennym ar eich cyfer ar hyn o bryd!​

Cynigion Arbennig

Talebau Rhodd

Cynllun Ffyddlondeb

Bwyty A Bar