fbpx

EIN HYSTAFELLOEDD

YSTAFELL FRENHINES DDETHOL

SWÎT FRENHINES

SWÎT FRENHINES – MYNEDIAD HAWDD

YSTAFELL FRENHINES SAFONOL

Tŷ Dre

Tŷ Dre – trysor cudd Caernarfon.  Wedi’i leoli o fewn muriau canoloesol, hanesyddol y dref, mae pensaernïaeth enwog oes y Tuduriaid ac oes Fictoria i’w gweld, yn ogystal â’i nodweddion plasty trefol Edwardaidd ei hun.  Boed chi ar drywydd cuddfan ar gyfer penwythnos rhamantus, neu rywle i ddathlu achlysur arbennig gyda ffrindiau, mae gan Tŷ Dre 14 o ystafelloedd moethus, agored â nenfydau uchel.

Os yw lleoliad uwchlaw popeth, does dim angen chwilio ymhellach na Tŷ Dre.  Mae wedi’i leoli yng nghanol unigryw a hanesyddol y dref, felly mae o fewn cyrraedd hawdd i’r prif dirnodau ac atyniadau.  Dim ond ychydig gamau o Gastell Caernarfon, cyfoeth o adeiladau hanesyddol, a’r Fenai.

Ar ôl diwrnod o ymweld ag atyniadau neu siopa, beth am ddod mewn ac ymlacio yn Nhafarn hanesyddol y Black Boy, lle gallwch chi fwynhau bwyd cartref da neu ddiod o blith y dewis arbennig o gwrw, gwin a gwirodydd sydd gennym, oll mewn amgylchedd cysurus a chroesawgar.