fbpx

ADRENALIN

Mae gogledd Cymru yn cael ei alw’n faes chwarae mawr yn aml, ac mae hynny’n hollol wir: bydd y gweithgareddau isod yn gwneud i’r adrenalin lifo ac yn gwneud i chi deimlo fel plentyn eto.

Zip World / Go Below

Mae’n bosib eich bod yn gwybod am Zip World a Bounce Below yn barod – mae llawer o sôn wedi bod am eu hatyniad unigryw. Ddim yn ofn uchder ac yn hoffi rhoi cynnig ar rywbeth anarferol? Os felly, go debyg mai gwibio o uchder yw eich syniad chi o’r gweithgaredd perffaith! Wrth eich bodd yn bownsio ond wedi diflasu ar yr ardd gefn? Mae’r criw yn Bounce Below yn cynnig profiad cwbl wahanol ac yn eich gwahodd i ddod i fownsio mewn ogofau tanddaearol. Os ydych chi’n chwilio am lety ger Zip World, rydyn ni mewn lle perffaith!

TRAC MÔN

Mae diwrnod ychydig yn fwy confensiynol yn disgwyl amdanoch chi yn y trac rasio hwn. Os oes gennych chi ffrind rydych chi’n hoff o’i herio ac yn dymuno cael y gorau ohono, neu’n dymuno mynd i hwyl a gwibio o amgylch trac rasio gyda’ch ffrindiau, mae hwn yn berffaith i chi.

Rib Ride

Ddim yn ofn o wlychu ar y Fenai? Mae Rib Ride yn eich gwahodd am ddiwrnod ar y cychod antur, sy’n cael eu gweithredu ar y cyd â Bear Grylls. Os ydych chi eisiau mynd fel y gwynt ar ddyfroedd hyfryd gogledd Cymru, go debyg mai’r cychod RIB cyffrous sydd ganddynt yw’r peth perffaith i chi.