fbpx

Tuesday, 4 April 2017

Adnewyddiadau

Rydym pob tro yn awyddus clywed am  profiadau ein cwsmeriaid, Felly fel canlyniad rydym wedi gwrando ar eich holl sylwadau gwerthfawr ynghylch a’r bwyty ac yn wedi penderfynnu adnewyddu ein Bwty i wneud yn lle mwy cyfforddus i fwyta ac ymlacio mewn.

Mis diwethaf, cafodd gwaith ei cwbwlhau yn y cerbyty i integreiddio lle tân i mewn i’r ystafell.

Wrth gwrs, roedd yn rhaid i’r newidiadau fod yn gydnaws ag arddull traddodiadol weddill y dafarn, ac rydym yn credu bod y canlyniad terfynol yn adlewyrchu hyn.

Fel ymdrech i gefnogi busnesau cyfagos ac i fuddsoddi yn ein heconomi lleol, mae’r carreg trawiadol a llechi sydd yn amgylchu ar y lle tân o ffynonellau lleol.

Dechreuodd y gwaith adnewyddu ar y 27ain Chwefror, ac erbyn y trydydd diwrnod, roedd y lle tân yn dechrau cymryd siâp. Rydym hefyd wedi penderfynu cael ychydig o rheiddiaduron hen ffasiwn i gadw ein gwesteion yn gynas neis, yr ydym yn sicr y bydd hyn yn cael ei gwerthfawrogi unwaith y bydd y misoedd oer yn dod o gwmpas eto.

Erbyn Mawrth 8fed roedd ein lle tân bron ai orffan, gan ychwanegu trawst derw hardd ar ei ben. Dim ond dau ddiwrnod arall oedd angan i’rlle tân newydd cael ei gwblhau. Rydym yn hynod o falch dros y gwaith calad cafodd ei rhoid fewn ir cerbyty

Hoffem ddiolch i bawb a fu’n ein helpu gyda’r nodwedd hyfryd newydd o fewn y cerbyty, ac yn gobeithio fod y newidiadau yn cadw ein cwsmeriaid yn gynnes drwy gydol y blynyddoedd i ddod!

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd golwg ar ein ychwanegiad newydd, gallwch nawr wneud archebiadau bwyty ar-lein heb orfod alw i fyny ac gorfod aros i gadw lle.

Cymerwch olwg ar y lluniau o cynnydd y gwaith yn y cerbyty yn isod i weld yn union faint o wahaniaeth mae y gwaith adnewyddu wedi ei wneud i’r bwyty.