fbpx

Monday, 7 January 2019

2019 – Blwyddyn Darganfod

Eleni… Dewch i Ddarganfod Gogledd Cymru!

Yn dilyn y Flwyddyn Antur, y Flwyddyn Chwedlau a Blwyddyn y Môr – Blwyddyn Darganfod yw hi eleni! Am thema berffaith, gan fod cymaint i’w archwilio yng ngogledd Cymru!

Mae’r amrywiaeth helaeth o leoliadau ac atyniadau yn ei gwneud yn baradwys i anturwyr!

Ceir mynyddoedd Eryri, morlin syfrdanol, ynysoedd nodweddiadol, cefn gwlad gwyrdd glaswelltog, Traethau Baner Las a llawer mwy.

Mae llond gwlad o bethau i’w darganfod yng ngogledd Cymru eleni.

Mae mynyddoedd Eryri yn cynnwys Yr Wyddfa enwog, Tryfan â’i ddannedd tebyg i Toblerone, a’r Glyderau – pob un ymysg ffefrynnau mynyddwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.

 

Dewch i Ddarganfod Hyfrydwch a Chwedlau

Yng nghanol y mynyddoedd mae llwybrau chwedlonol sy’n rhan o lawer o straeon y Mabinogi – casgliad o chwedlau mytholegol Cymreig.

Mae’r morlin wir yn werth ei weld, yn cynnwys pob math o amgylcheddau glan môr – clogwyni, ogofau, darnau mawr o draeth tywodlyd, a thwyni tywod aruchel. Ac mae hynny heb sôn am y nifer o oleudai glan môr sydd wedi llywio llongau heibio’r creigiau arfordirol ers canrifoedd.

Hefyd, mae lleoliadau glan môr gwych fel Caernarfon, Porthdinllaen a Llandudno, oll o fewn pellter gyrru i’w gilydd a phob un yr un mor hanesyddol arwyddocaol a phrydferth a’i gilydd.

 


Ymysg ynysoedd gogledd Cymru mae Ynys Môn, ynys hardd sy’n adnabyddus am ei thraethau hyfryd a’i chefn gwlad gwyrdd glaswelltog, sydd yr un mor drawiadol.

Ar arfordir Ynys Môn mae ynys lanw Llanddwyn a’i goleudy gwyn enwog – man delfrydol i unrhyw Instagramwyr brwd gan fod y traethau tawel yn gwneud llun anhygoel, heb fod angen yr un hidlydd. Mae ganddi le ym mytholeg Cymru hefyd fel cartref Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Sôn am ddarganfod, oeddech chi’n gwybod bod tref Dinbych yn gartref i’r anturiwr a’r archwiliwr o Gymru, HM Stanley – ‘Dr. Livingstone I Presume?’. Ac mae Ffynnon Beuno sydd gerllaw yn ffynnon hynafol a sanctaidd – byddai pererinion yn dod o bell ac agos i ymdrochi oherwydd ei phwerau iachau honedig.

Dewch i archwilio celf a chelfyddydau eleni – gallwch chi ddechrau drwy ymweld â rhai o’r canolfannau creadigol gwych yn yr ardal, fel Oriel Mostyn yn Llandudno a Galeri Caernarfon. Mae Galeri ar lan y môr ac yn ogystal â chynnal perfformiadau theatr anhygoel, mae newydd fuddsoddi mewn estyniad gwerth £2 filiwn i’w sinema.

Ychydig i’r de o Benrhyn Llŷn mae pentref Eidalaidd ysblennydd Portmeirion, sydd wedi cael ei ddylunio’n ofalus fel lleoliad gwyliau paradwysaidd – dyma oedd lleoliad ffilmio’r gyfres deledu ‘The Prisoner’. Mae yno olygfeydd godidog dros y môr crisialog, a choetir cudd.

Mae dyfrbont Pontcysyllte yn lleoliad anhygoel hefyd, ac yn adnabyddus dros y byd i gyd. Mae’r ddyfrbont ar godi yn cario cychod camlas drwy’r awyr wrth iddynt hwylio dros y bont. Golygfa werth ei gweld.

Mae gan Gymru fwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn y byd! Rhai o’n hoff rai ni ydy Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Dolwyddelan. Ewch i’w gweld!

Hawdd eu cyrraedd mewn car o’n gwesty yn Eryri sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif.