fbpx

Thursday, 23 March 2017

Yr Wyddfa

Snowdon - Hotels near Zip WorldDyma fynydd uchaf Cymru. Ystyr yr enw yw claddfa neu feddrod – a hwnnw, yn ôl traddodiad, i gladdu Rhita Gawr. Mae’r enw Saesneg Snowdon neu Snowden hefyd yn hen iawn ac yn dyddio’n ôl i ddyddiau ymwelwyr llychlynaidd a’r arfordir ac yn ein hatgoffa y byddai gorchudd o eira ar y copa yn nodwedd parahol drwy fisoedd y gaeaf tan yn weddol ddiweddar. Does dim sicrwydd, er hynny, nad enw i Eryri gyfan oedd hwn yn wreiddiol, yn hytrach na’r Wyddfa ei hunan.

Copa urddasol yw, sy’n tra-arglwyddiaethu dros weddill Eryri. Syndod i lawer yw canfod fod creigiau gwaddodfaen y copa wedi bod dan wely’r môr ar un cyfnod ac os y chwiliwch yn ofalus efallai y  canfyddwch ffosiliau pysgod cregyn mewn un o’r cerrig sy’n gorwedd o gwmpas carnedd y copa.

Mae’n atyniad mawr i ymwelwyr hefyd. Gellir eich cario i’r copa, yn ystod misoedd yr haf, gan drên fechan, Trên Bach Yr Wyddfa, sy’n cychwyn o Llanberis. Bydd miloedd yn teithio arni bob blwyddyn. Byth ers pan agorwyd y rheilffordd i’r copa, yn 1896, bu’n rhaid cael cysgod o rhyw fath i’r ymwelwyr. Bu bob math o adeiladau yno, gan gynnwys yr un a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis yn 1935.

Dymchwelyd yr adeilad hwnnw yn 2006, wedi iddo gael ei ddisgrifio, ym mysg pethau eraill, fel ‘slym’ uchaf Ewrop! Yn ystod 2007 adeiladwyd canolfan newydd, gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, enw’r adeilad newydd yw Hafod Eryri. Ceir manylion llawn am yr hanes i gyd o dudlaennau hanes Y Parc.

Oherwydd ei sefyllfa, yn wynebu gwyntoedd y gorllewin, mae’r tywydd ar y copa hwn yn medru bod yn arw iawn, unrhyw amser o’r flwyddyn. Gall y gwynt chwythu cyn gryfed a 150 milltir yr awr ar brydiau ac oherwydd hinsawdd yr ardal rhaid paratoi ar gyfer i’r tywydd newid ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Aeth llawer un i drafferthion ar y mynydd hwn a lladdwyd nifer ohonynt, yn aml am nad oeddynt wedi paratoi’n ddigonol a gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y daith. Ceir adroddiau cyson o’r orsaf dywydd sy’n uchel ar y mynydd.

Bu’r Wyddfa, fel yr ardal o’i chwmpas yn atdyniad i fynyddwyr ers y dyddiau cynnar a bu’r criw a ddringodd Everest yn 1953 yn ymarfer arni a bu ei hesgyn yn rhan bwysig o raglen nifer o aduniadau wedi hynny.

Mae hafnau Clogwyn y Garnedd (yn union o dan y copa ar yr ochr ogledd ddwyreiniol) yn medru llenwi efo eira yn y gaeaf (nid mor aml ag yn y gorffennol!) ac yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer dringo ar eira.

Mae i fyd natur ei rhan yn stori’r mynydd hwn hefyd. Ynyswyd nifer o rywogaethau planhigion oes yr ia ar ei llethrau, wrth i’r rhewlifoedd gilio dros y 10 mil o flynyddoedd diwethaf. Bellach, gyda arwyddion fod cynhesu byd-eang yn digwydd mae bygythiad go iawn i’r llysdyfiant hwn. Yr ewocaf o’r rhain, efallai, yw Lili’r Wyddfa neu Frwynddail Y Mynydd a enwyd ar ôl Edward Llwyd yn Lloydia serotina.

Rhybydd

Mae natur y dirwedd a’r tywydd a geir ar lwybrau’r Wyddfa yn medru arwain i sefyllfaoedd peryglus iawn. Ni ddylid ystyried dilyn unrhyw un o’r llwybrau hyn heb ddillad ag offer addas a’r gallu i’w defnyddio yn gywir. Os mewn unrhyw amheuaeth dylech geisio cymorth gan fynyddwr/wraig profiadol neu ymuno â chlwb fel Clwb Mynydda Cymru.

Llwybrau Pen y Pas

Mae maes parcio ym Mhen y Pas – a chaffi i dorri syched ar ôl gorffen eich taith. Rhaid cyrraedd yn gynnar i sicrhau lle ar y penwythnos, ond gellir parcio yn Nant Peris a dal bws Y Sherpa i Ben y Pas, os nad oes lle yno.

Llwybr y Mwynwyr

Dechreua’r llwybr hwn, yr hawddaf (llai o waith esgyn) o’r holl lwybrau efallai, ar ben deheuol maes parcio Pen y Pas. Mae’r rhan fwya ohonno yn ddigon amlwg ac yn hawdd i’w ddilyn. Mae hefyd yn eitha cysgodol, ar dywydd garw, hyd nes cyrraedd uwchben Llyn Glaslyn. Dyna ble mae’n ymuno â’r llwybr PYG.

I ddechrau rhaid dilyn y ffordd garregog i fyny heibio i Lyn Teyrn ac yna i lannau Llyn Llydaw. Mae’r ffordd wedyn yn croesi’r Llyn ar hd cob a adeiladwyd, yn wreiddiol, gan y mwynwyr yn 1856. Pan ostyngwyd lefel y llyn hwn ar gyfer adeiladu’r argae bychan, ble y cysyllta’r pibau dŵr i orsaf Cwm Dyli, canfyddwyd canw derw o’r oes neolithig yn y mwd ar waelod y llyn (mae hwn yng ngofal Amgueddfa Cymru bellach).

Ar ôl croesi’r cob, dilyna’r llwybr ochr orllewinol y llyn, heibio i adfeilion adeiladau mwyngloddio, cyn dringo i fyny at lannau Llyn Glaslyn. Oddi yno rhaid dringo’r llwybr serth i fyny i ymuno â’r llwybr PYG, a’i ddilyn i ddringo Llwybr y Mul (mae’r Saeson yn alw’n ‘Zig-Zags’) i Fwlch Glas (ble mae carreg anferth wedi ei gosod ar ei thalcen i nodi’r fan ble mae Llwybr y Mul yn cyrraedd y bwlch – reit handi ar y ffordd i lawr ar gyfer canfod dechrau’r llwybr).

Yma, ar y bwlch, mae angen troi i’r chwith ac ymuno â Llwybr Llanberis a’r llwybr o Grib y Ddysgl a Charnedd Ugain. Gellir dilyn y llwybr, ar y chwith i’r rheilffordd, yr holl ffordd i’r copa.

Llwybr PYG (Llwybr Pig; Llwybr y Moch) & Llwybr y Grib Goch

Cred rhai mai ffurf cywir enw’r llwybr yma ydi ‘PYG’, sef ‘Llwybr Pen Y Gwryd’. Nid yw pawb yn cytuno ar hyn ac yn dal mai ‘Pig’ ddylai fod y sillafad – sef ‘Mochyn’. Hyn, yn deillio o’r ffaith mai dyma’r llwybr sy’n mynd drwy ‘Fwlch y Moch’. Cred rhai fod yr enw am y bwlch yn deillio o gysylltiad â’r arfer o hela’r baedd gwyllt yn yr ardal, ers talwm. Am y tro, fe ddefnyddiwn y ffurf ‘PYG’.

Mae’r llwybr hwn, efallai yr un mwyaf poblogaidd, yn dechrau o ben draw ucha’r maes parcio y tu ôl i’r caffi ym Mhen y Pas. Mae wedi ei arwyddo’n glir gan arwyddion a ddarparwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’n hawdd i’w ddilyn hyd Fwlch y Moch – lle y ceir golygfa dda o Llyn Llydaw a Lliwedd. Yma mae’r llwybr yn fforchio, gyda Llwybr y Grib Goch yn taro i fyny i’r dde ar y Bwlch (rhagor am y llwyr hen yn y man).

Mae’r Llwybr PYG yn mynd yn syth ymlaen ac yn dilyn godrau’r Grib Goch (i fyny ar y dde). Yn y diwedd mae’n dod i fan ymhell uwchben Llyn Glaslyn, lle y ceir golygfa dda o Fwlch y Saethau a Chlogwyn y Garnedd, gyferbyn. Mae wedi ei farcio’n glir yr holl ffordd. Mae’n ymuno â Llwybr y Mwynwyr uwchben Llyn Glaslyn (ble mae olion cloddio an fwynau), ac yna’n dilyn y llwybr mul i Fwlch Glas a’r copa (gweler Llwybr y Mwynwyr).

Amrywiad: Os ydych am ddiwrnod mwy diddorol yna gallwch droi i’r dde ar Fwlch y Moch ac anelu am Y Grib Goch, ac oddi yno dros Fwlch Coch a Chrib y Ddysgl i Garnedd Ugain, Bwlch Glas ac ail ymuno a’r Llwybr PYG i’r copa. Ond, bydd rhaid bod yn hynod o ofalus ac nid yw’n syniad da ar ddiwrnod gwyntog neu os oes argoel fod perygl o fellt a tharannau.

Mae llawer wedi cael eu lladd yn dilyn y llwybr hwn ac nid yw’n syniad da ei ddewis os nad oes gennych ben da am fod mewn llefydd uchel. Wedi dweud hynny, mae’n llwybr difyr i’r mynyddwr profiadol ei ddilyn. Os ydych am ei ddilyn am y tro cynta yna gwell gwneud hynny yng nghwmni rhywun profiadol sy’n adnabod y llwybr (nid yw’r llwybr bob amser yn glir, yn enwedig os yw hi’n niwliog). Ar ddiwrnod o rew ac eira mae gofyn llawer o brofiad ac offer addas i’w ddilyn yn ddiogel.

Llwybr Lanberis

Dyma’r llwybr hawddaf (ddim mor serth), ond hiraf (tua 8km a 1000m o esgyn), o’r cyfan. Mae’n boblogaidd iawn ar noson lleuad llawn ym Medi i fynyd i’r copa ar y bererindod draddodiadol i weld y wawr yn torri.

Dilyna, fwy neu lai, lwybr y trên bach. Yn yr haf mae rhai twristiaid yn cymryd y tren i’r copa ac yna yn cerdded i lawr y llwybr hwn yn ôl i Lanberis. Mae’n cychwyn wrth i chi droi i’r dde yn union ar ôl pasio gorsaf y trên bach wrth deithio o bentref Llanberis.

Dilynwch y ffordd drwy Stryd Victoria ac fe welwch y ffordd – darmac o hyd – yn mynd yn dyth ymlaen dros grid anifeiliaid. Wedi dilyn y ffordd yma am rhyw 400m, gan ddringo’n serth, mae’r llwybr yn gadael y tarmac ac yn troi i’r chwith. Mae’r llwybr yn hawdd i’w ddilyn yr holl ffordd i’r copa. Ar y ffordd cewch olygfa dda o Glogwyn Du’r Arddu a’r llyn oddi tano, ar y dde, tra ar y chwith ceir golygfa dda o Gwm Glas Bach a Bwlch Llanberis.

Wedi pasio gorsaf Clogwyn mae’n gogwyddo i’r dde, gan croesi llethr serth uwchben Clogwyn Coch – sy’n gallu fod yn le peryglus os oes eira wedi rhewi o gwmpas! Cyn hir mae’r llwybr yn cyrraedd Bwlch Glas, lle mae’n ymuno â’r llwybr o Garnedd Ugain (a Chrib y Ddysgl) yn ogystal a llwybrau’r PYG a Mwynwyr o Ben y Pas. Oddi yma mae’n rhwydd dilyn y llwybr ar hyd y grib derfynnol i gopa’r Wyddfa ei hunan.

Llwybr Rhyd Ddu

Llwybr hollol wahanol i’r copa, sy’n ymuno a’r hen Lwybr Beddgelert yn isel ar y mynydd ac felly ystyriwn y llwybrau hyn fel yr un. Mae hwn hefyd yn llwybr poblogaidd, gan fynyddwyr profiadol, ar gyfer mynd i’r copa yng ngolau lleuad llawn i weld y wawr yn torri.

Mae’n cychwyn wrth y faes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ar ochr dde-ddwyreiniol y pentref. Yma hefyd mae gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae arwyddion yn dangos y ffordd i fynd, ar hyn ar hen llwybr drwy’r chwareli am rhyw 2km cyn troi i’r chwith, drwy lidiart bychan, i ymuno â hen Lwybr Beddgelert. Mae’r llwybr wedi ei farcio’n glir ac yn anelu am lethrau Llechog.

Rhyw hanner ffordd ar hyd Llechog mae llecyn o’r enw Mur Murianau. Dyma le gwastad a di-gerrig (dipyn yn anarferol yn y parthau yma!). Mae crêd mai addolfan i’r Derwyddon oedd yma. Dilynwn y grib, gyda Cwm Clogwyn ar y chwith, i ymuno â chrib ddeheuol Yr Wyddfa (Bwlch Main). Wrth esgyn Bwlch Main i’r copa mae Cwm Tregalan ar y dde.

Llwybr Watkin o Nant Gwynant

Dyma’r llwybr sydd â’r gwahaniaeth mwyaf rhwng uchder y man cychwyn a’r copa. Mae’n llwybr difyr ond rhaid bod yn ofalus ar y rhan uchaf ohonno, yn enwedig yn y niwl. Agorwyd hwn (yn 1892) yn swyddogol gan y Prif Weinidog Gladstone. Mae’n cychwyn ger Pont Bethania yn Nant Gwynant. Mae maes parcio helaeth yma. Mae wedi ei arwyddo yn glir ac yn dilyn y ffordd garregog lydan drwy’r coed, gan basio Rhaeadr Cwm llan ar y dde – golygfa arbennig os oes glaw trwm wedi bod.

Yn y llecyn hwn, gyda’r afon yn isel ar y dde – lle mae’r llwybr yn dilyn ochr chwith y dyffryn – y ffilmiwyd Carry on Up The Khyber. Ychydig yn uwch i fyny mae’r llwybr yn cyrraedd Carreg Gladstone – lle’r annerchodd y dorf ar agoriad y llwybr (plac ar y graig). ychydig bach pellach ac fe welwch adfail Plas Cwm Llan – a ddinistriwyd gan fwledi ymarferion milwyr y fyddin yn ystod yr ail ryfel byd.

Ar ôl pasio olion gwaith cloddio mae’r llwybr yn esgyn ar hyd ochr dde Cwm Tregalan, yr holl ffordd y Fwlch Y Saethau. Mae’n werth gadael y llwybr a dringo i’r bwlch ei hunan am olygfa o Lynnoedd Llydaw a Glaslyn, cyn dychwelyd i’r llwybr i fynd am Yr Wyddfa (Mae bosib hefyd dilyn y grib o’r bwlch i lawr at Lyn Glaslyn, ac ymuno â Llwybr y Mwynwyr, os am newid! – ond rhaid bod yn ofalus wrth ganfod y llwybr). Mae’r Llwybr Watkin yn awr yn esgyn ar draws wyneb deheuol Yr Wyddfa, hyd at Fwlch Main, ac yna i fyny’r Bwlch i’r copa. Mae angen gofal ar y darn yma o’r mynydd – yn arbennig yn y gaeaf.

Llwybr Snowdon Ranger o Lyn Cwellyn

Os rhywbeth, hwn yw’r llwybr lleiaf poblogaidd. Er hynny mae agwedd hollol wahanol o’r mynydd i’w gael ohonno, heb sôn am yr hyn a fyddai llawer yn ystyried yr olygfa orau o Glogwyn Du’r Arddu. Nodir cychwyn y llwybr gan arwydd Llwybr Cyhoeddus, ychydig i gyfeiriad Capel Garmon o’r Hostel Ieuenctid Snowdon Ranger. Mae Maes Parcio yma hefyd. Ymhen dim mae’r llwybr yn croesi lein Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae’n llwybr hawdd ei ddilyn i fyny llethrau Moel Cynghorion ac am y bwlch uwchben Clogwyn Du’r Arddu. Yna, mae’n mynd uwchben Clogwyn Du’r Arddu ac i fyny i Fwlch Glas, ble mae’n ymuno â a Llwybr Llanberis, Llwybr Crib y Ddysgl, Llwybr y Mwynwyr a Llwybr y PYG i anelu am y copa.

Eraill

Pedol Yr Wyddfa

Dyma un o glasuron y byd mynydda. Yn cychwyn a gorffen ym Mhen y Pas, mae’n cynnig diwrnod sylweddol a difyr o fynydda, sy’ cwmpasu pedwar copa (Y Grib Goch, Carnedd Ugain, Yr Wyddfa a Lliwedd) yn ogystal a pedwar o fylchau (Bwlch y Moch, Bwlch Coch, Bwlch Glas a Bwlch y Saethau). Mae’n syniad da gwneud y daith yma yng nghwmni rhywun profiadol.

Nodiadau diddorol eraill

Mae pob math o straeon a chwedlau diddorol am ardal Yr Wyddfa. Mae hanes am rhyw fath o greadur blewog (math o Yeti?) a oedd yn byw yng Nghwm Tregalan. Cysylltir Cwm Tregalan a Bwlch y Saethau efo chwedlau Arthuraidd hefyd. Mae hanes diddorol i fwyngloddio am Fanganese uwchben Llyn Glaslyn hefyd. Neu beth am ddirgelion naturiol Cwm Glas? Os gwyddoch am stori dda danfonwch hi atom, fel y medrir ei chynnwys.