fbpx

Friday, 14 September 2018

Ymunwch â’r Bwrlwm yng Ngŵyl Eryri 2018

Ymunwch â’r hwyl a’r cyffro fis Medi yma yng Ngŵyl Eryri 2018! Yn fyw o Barc Gwydir yn Llanrwst yng nghwmni talentau gwych, mae Gŵyl Eryri 2018 yn ddigwyddiad na ddylech ei golli! Nid yw’n ddigwyddiad i drigolion Llanrwst a Gogledd Cymru yn unig. Lle bynnag rydych chi’n byw, gallwch ddod â’ch teulu i ymuno â theuluoedd eraill i fwynhau llu o ddigwyddiadau o chwaraeon i gerddoriaeth a ffilmiau! Poeni am lety? Dim problem, gan fod gwestai Eryri yn darparu’r llety gorau yn ystod y digwyddiad 2 ddiwrnod i’w gynnal ar 28 a 29 Medi.

Gadewch i ni fynd â chi drwy’r gwahanol ddigwyddiadau yng Ngŵyl Eryri 2018!

Cerddoriaeth

Mae’r llwyfan yn barod i groesawu Gŵyl Eryri 2018 gyda pherfformiadau byw gan Billy Bibby & The Wry Smiles, Sera and the Suspects, Alys Williams, Ghost Buckets a thalentau diddorol eraill. Bydd Parc Gwydir yn llawn cerddoriaeth a digon ohono. Os ydych chi’n caru cerddoriaeth o safon, yna mae Gŵyl Eryri 2018 ar eich cyfer chi. Archebwch ystafell yn un o westai gwych Eryri yn barod ar gyfer Gŵyl Eryri 2018. Gyda golygfeydd o’r traethau a’r mynyddoedd, mae gwestai Eryri yn cynnig cyfle ychwanegol i chi weld y golygfeydd godidog hyn!

Ffilmiau

Gallwch ddisgwyl dim llai na’r gorau gyda sioeau ffilm gan Tape Community Music and Film. Gallwch wylio ffilmiau’r gaeaf o Brydain a ffilmiau diddorol eraill!

Antur

Mae rhywbeth ar gyfer y rheini sy’n caru chwaraeon ac antur hefyd. Mae Gŵyl Eryri eleni yn cynnwys Llwybr Gwytnwch yng Nghwm Conwy. Gyda llu o wobrau i’w hennill, mae Llwybr Gwytnwch Eryri yn rhoi profiad anhygoel i chi yn ogystal â hapusrwydd! Ras yn erbyn y cloc felly yng nghoedwig Gwydir!

Oherwydd yr ŵyl, mae ystafelloedd yng ngwestai Eryri eisoes yn cael eu harchebu. I sicrhau nad ydych yn colli Gŵyl Eryri 2018, mae’n talu ffordd i gysylltu ag unrhyw un o westai Eryri i gadw’ch ystafell. Gyda phrisiau gwahanol mewn lleoliadau hardd gwahanol, gwestai Eryri yw’r gorau y gallwch eu cael o ran llety.

Gallwch chi ddim fforddio colli Gŵyl Eryri 2018. Gyda digonedd o gerddoriaeth, ffilm, chwaraeon a bwyd, mae’n addo i fod yn benwythnos i’w gofio!