fbpx

Wednesday, 31 October 2018

Tafarn y Black Boy wedi cael dyfarniad Llety Safon AUR gan yr AA

Yr AA yn rhoi Dyfarniad Safon Aur i Dafarn y Black Boy, yn ogystal â Dyfarniadau Ychwanegol am Frecwast a Swper Rhagorol.

Rydyn ni’n hynod o falch fod yr AA wedi cyflwyno sawl dyfarniad i ni i gydnabod safon uchel ein llety a’n bwyd.

Hoffem ddiolch yn arbennig i’r AA am yr archwiliad a’r dyfarniad.

Mae llawer i’w ganmol yn Nhafarn y Black Boy, lleoliad hynod boblogaidd sy’n cael ei redeg a’i reoli’n dda. Mae’r tîm cyfan yn gwrtais, yn garedig ac yn groesawgar ac maen nhw’n sicrhau bod y gwasanaeth yn slic ac yn broffesiynol er mwyn diwallu anghenion y niferoedd sy’n cael eu gwasanaethu yma, ac mae cydbwysedd da rhwng y ddwy agwedd.
Mae gofal tŷ yn gryfder yn yr eiddo mae’r staff yn ddiwyd ac yn canolbwyntio ar eu gwaith, sy’n galonogol ac yn rhoi hyder i’r gwesteion yn yr hyn sydd o’u cwmpas. Mae’r ystafelloedd a’r ystafelloedd ymolchi wedi cael eu cwblhau ac, ers yr ymweliad diwethaf, mae 7 ystafell wedi cael eu hychwanegu at y Tŵr Du.

Roedd yn braf gweld bod ansawdd y prif dŷ a’r Tŵr Du yn gyson a’u bod wedi’u gorffen i safon uchel. Yn sgil yr ymweliad hwn, mae’r Black Boy wedi’i ddyfarnu’n Dafarn Pedair Seren gan yr AA, ac mae Sêr Aur wedi cael eu dyfarnu i adlewyrchu’r safonau a’r ansawdd uwch a welwyd yn yr eiddo drwyddo draw.

Mae’r bwyd yn ffactor pwysig yma ac mae’r fwydlen yn rhagorol o ran gwasanaethu’r farchnad amrywiol. Cafwyd pryd dymunol ac roedd ansawdd y cynhwysion a’r sgiliau yn
dda iawn.

I adlewyrchu hyn rhoddwyd dyfarniad newydd, sef Dyfarniad Swper yr AA, i’r dafarn. Roedd yn galonogol gweld bod yr un sylw yn cael ei roi i frecwast – roedd amrywiaeth ac ansawdd gwych yn y bwffe ac ar y fwydlen. Cafodd Dyfarniad Brecwast yr AA ei ddyfarnu i adlewyrchu hyn.

Yma yn Nhafarn y Black Boy, rydyn ni’n anelu at y safonau uchaf, gan gynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf a chynnal ein cefndir traddodiadol. Mae’n wych bod ein gwesteion yn cydnabod y gwaith caled mae ein tîm yn ei wneud i sicrhau bod pob un ohonynt yn cael y profiad gorau posibl.

Mae’r AA yn asiantaeth uchel ei pharch ac felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn am ei chlod.