fbpx

Tuesday, 2 April 2019

Pethau i’w gwneud yn ystod gwyliau’r Pasg yng Nghaernarfon

Beth am ymweld â Chaernarfon dros y Pasg? Mae digon o leoedd a digwyddiadau yma i chi!

Os mai hanes sy’n mynd â’ch bryd, Castell Caernarfon ydy’r lle i chi. Mae’r castell hwn, sy’n Safle Treftadaeth y Byd o’r 11eg ganrif, ymysg y mwyaf trawiadol yng Nghymru.

Ar Ddiwrnod Treftadaeth y Byd, dewch i ddathlu dros 30 mlynedd o statws Treftadaeth y Byd y castell.

Cewch brofiad o olygfeydd a synau rhyfela yn y 19eg ganrif, wrth i Gartrawd Troed 23ain Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig orymdeithio i Gastell Caernarfon a sefydlu eu gwersyll. At ei gilydd mae cestyll Caernarfon, Biwmares, Conwy a Harlech, yn ogystal â’r amddiffynfeydd o amgylch trefi Caernarfon a Chonwy, yn Safle Treftadaeth y Byd, ac maent ymysg yr enghreifftiau gorau o ryfelgarwch yn Ewrop. Pan gawson nhw eu hadeiladu roedd eu dylunwyr yn cael eu hystyried yn arloeswyr, ac mae’r ysblander strwythurol yn dal mor aruthruol ag erioed.

Ble: Castell Caernarfon Pryd: 20 – 21 Ebrill 2019, 11am – 4pm.

Chwilio am weithgaredd llawn hwyl i’r teulu? Beth am roi cynnig ar Helfa Wyau Pasg y Ddraig, lle byddwch yn dysgu sut mae defnyddio bwa a saeth wrth i chi archwilio coridorau’r castell i ddod o hyd i ffau’r Ddraig ac ennill eich syrpreis wy Pasg.

Ble: Castell Caernarfon Pryd: 22 Ebrill 2019, 11.30am – 3.30pm.

Os ydy saethu â bwa o ddiddordeb i chi, dewch draw i’r Diwrnod Saethu â Bwa, lle byddwch yn cwrdd â Saethwyr y Ddraig Goch o Gaernarfon, a fydd yn adrodd hanes y bwa hir ac yn dangos sut mae saethu bwa. Bydd cyfle i ddysgu sut mae llwytho a thanio magnel hefyd, ac i weld sut mae pen saeth yn cael ei wneud.

Ble: Castell Caernarfon Pryd: 19 Ebrill 2019, 11am-3.30pm

Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, dylai Dringo’r Wyddfa fod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud dros y Pasg.

Mae’r daith, sy’n cael ei threfnu gan Climb Snowdon, yn daith gerdded diwrnod cyfan i fyny’r Wyddfa, gan ddilyn Llwybr Pyg ar y ffordd i fyny a Llwybr Llanberis ar y ffordd i lawr (tua 9 milltir at ei gilydd).

Bydd y grŵp yn cychwyn o Reilffordd yr Wyddfa am 8.45am. I archebu eich lle, ewch i www.climb-snowdon.co.uk/

Ble: Yr Wyddfa Pryd: 22 Ebrill 2019, 8.45am – 4.30pm