fbpx

Tuesday, 8 October 2019

GŴYL ZIP ROC

Gŵyl gerddorol yw Gŵyl Zip Roc  gaiff ei chynnal ar y 15 Mehefin, ac ar gyfer ei hail flwyddyn cynhelir yr ŵyl yn Chwarel y Penrhyn, taith fer mewn car o Dafarn y Black Boy yng Nghaernarfon. Bydd yr ŵyl yn codi arian ar gyfer elusen fel gwnaethpwyd yn 2018 pan oedd mewn partneriaeth â’r Love Hope and Strength Foundation, cronfa ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan Mike Peters, prif ganwr The Alarm, i helpu pobl sy’n byw â chanser, ac fe godwyd £25k.

Eleni, gyda’r gwaith ehangu yn ei le, mae’r lleoliad ddwywaith yn fwy na’r llynedd, a bydd nifer o atyniadau ymylol yno hefyd. Slade oedd prif berfformwyr y llynedd a chawsant eu cefnogi gan Mike, Maffia Mr. Huws, Brand Pres Llareggub a pherfformwyr lleol eraill. Eleni, fe fydd tri phrif berfformiwr ac fe gewch eich cludo’n ôl i’r 90au. Bydd Casts ar y llwyfan gyda chasgliad o ganeuon hen a newydd ynghyd â golygfa anhygoel o Eryri a Chwarel y Penrhyn. Yn ymuno â Casts fydd Miles Hunt o The Wonder Stuff a chaiff ei waith unigol ei gyflwyno i’r dorf.  Hefyd, bydd Mіkе Pеtеrѕ, sylfaenydd y Love Hоре аnd Strength Foundation, yn dychwelyd gyda pherfformiad egnïol o ganeuon hen a newydd. Bydd Bryn Fôn, Elin Fflur, Maffia Mr. Huws hefyd yn ymuno, ac yn dilyn eu perfformiad anhygoel y llynedd, fe fydd Storyville Mob yn dychwelyd, а bydd Alffa yn ymddangos yn Zip Roc am y tro cyntaf.

Cynhelir yr ŵyl yng nghartref llinell wibio gyflymaf y byd – y Vеlосіtу 2. Gall ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd gwych o Eryri a’r chwarel enwog yma ac ar yr un pryd fwynhau bwyd lleol, diod a’r gerddoriaeth wrth gwrs.  I’r rhai â thocynnau VIP, cewch fynd i’r adeilad Antur lle mae bwyty bistro a balconi i edrych ar y golygfeydd. Ar gyfer rhieni a babanod mae cyfleusterau newid ac ystafelloedd ymolchi. Hefyd mae parcio am ddim, ond awgrymir i bobl rannu car gan fod llefydd yn gyfyngedig.

Gyda dros £25k wedi ei godi llynedd, eleni mae cynlluniau ar y gweill i godi mwy, gan ddechrau drwy ddyblu cynhwysedd y lleoliad. Mae Zip Roc 2019 yn atgyfnerthu’r berthynas â’r Love Hope Strength Foundation sydd bellach yn ei ail flwyddyn. Po fwyaf o arian gaiff ei godi po fwyaf fydd y cymorth y gellir ei roi i bobl sy’n byw â chanser.  Mae’r digwyddiad anhygoel hwn yn un y dylech fod yn rhan ohono oherwydd mae cyfrannu fel hyn gymaint o hwyl. Cewch foddhad drwy fwynhau’r ŵyl gan wybod bod eich cyfraniad yn helpu elusen. Dathliad, a dweud y lleiaf.  Felly peidiwch â’i golli.