fbpx

Tuesday, 19 June 2018

Gorsafoedd Gwefru Ceir Trydan yn y Black Boy Inn

Gwesty yn Eryri gyda Gorsafoedd Gwefru Ceir Trydan

Mae’r dyfodol wedi cyrraedd!

Gyda thechnoleg yn datblygu mor gyflym, mae’r Black Boy Inn wastad wedi gwneud ei orau i gadw gyda’r oes (ers y 15fed ganrif mewn gwirionedd!). Gyda mwy a mwy o bobl yn newid i geir trydan, rydym am sicrhau bod pawb sy’n ymweld â’r Black Boy Inn a thref Caernarfon yn gallu gwefru eu ceir.

Am y rheswm hwnnw, rydym wedi gosod 3 o orsafoedd gwefru ym maes parcio’r Black Boy Inn.

Tesla yw 2 o’r rhain.
Universal yw 1 o’r rhain.

Edrychwn ymlaen at yrru i’r dyfodol gyda’n gilydd!