fbpx

Tuesday, 8 October 2019

Ffeithiau Difyr am Gastell Caernarfon

Heb os, mae Castell Caernarfon yn un o brif atyniadau Gogledd Cymru, yn enwedig gan ei fod yn un o’r cestyll mwyaf trawiadol yn y DU.  Mae holl dref bysgota Caernarfon oddi mewn i furiau’r castell, a chafodd ei nodi’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, sy’n ei gwneud yn gyrchfan o fri ar gyfer ymweliad diwrnod gyda’r teulu.  Dyma rai ffeithiau diddorol am y castell, fel eich bod yn gallu creu argraff ar ffrindiau a theulu yn ystod eich ymweliad.

Caernarfon Castle


Y mwyaf nerthol o’r Cylch Haearn  

Roedd Edward I o Loegr yn frenin ffyrnig a di-ildio, ac roedd yn benderfynol o orchfygu Cymru. Fe wnaeth hyn yn y diwedd yn 1282 pan orchfygodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru. Yna diffiniodd ei rym dros y gwrthryfelwyr Cymreig drwy adeiladu nifer o gaerau – a Chaernarfon oedd y mwyaf uchelgeisiol a’r mwyaf nerthol o’r cestyll newydd hyn, y Cylch o Haearn fel y’u gelwir. Disgrifiwyd y gyfres hon o gaerau yng  Ngogledd Cymru fel un o brosiectau adeiladau gorau a mwyaf y canol oesoedd.

Dyluniad Anarferol

Mae dyluniad Castell Caernarfon ychydig yn anarferol o’i gymharu â chestyll eraill yn y rhanbarth, megis Biwmares a Chonwy. Y ffordd orau o feddwl am y strwythur yw fel siâp y rhif wyth; yng nghanol y castell mae’r muriau’n agos at ei gilydd gan greu dwy  iard fawr gymesur.  Mae muriau trwchus o amgylch yr iard ganolog.  Mae’r muriau’n ymestyn yn ôl o’r bae, ac yna’n lapio o amgylch hen dref Caernarfon, sy’n golygu bod yr holl le’n ddiogel o fewn waliau cerrig y castell.

Gwaith Drud

Roedd yr arian a wariwyd gan Edward i adeiladu’r castell yn amlygu mai hwn oedd y prosiect mwyaf yn yr ardal.  Gwariwyd tua £22,000 ar adeiladu Castell Caernarfon, a oedd yn fwy o arian nag a fyddai wedi eu casglu mewn trethi am flwyddyn.  Gweithiodd cannoedd o grefftwr a masnachwyr ar y castell, gyda choed yn dod ar longau o Ynys Môn a Lerpwl, a llafurwyr yn dod o Lundain! Nid y pris anferthol yn unig sy’n gwneud Caernarfon yn drawiadol, cwblhawyd y gwaith adeiladu mewn pum mlynedd, a oedd yn hynod o gyflym yn y 1200au.

Caernarfon Castle

Y Tyrau Wythonglog Bygythiol

Un o nodweddion mwyaf deniadol Castell Caernarfon yw’r 12 tŵr wythonglog gwych. Mae arddull y tyrau’n wahanol i’r cestyll eraill yn yr ardal, roeddent yn anoddach o lawer i’w hadeiladu.  Credir bod dyluniad y tyrau wythonglog wedi ei ddewis i efelychu Caergystennin, sef Istanbul, Twrci heddiw. Defnyddiwyd cerrig amryliw er mwyn   edrych fel ddinas Fysantaidd. Mae’r tyrau’n fawr, mae Tŵr yr Eryr yn 10 metr ar ei draws.

Y Pyrth Mawreddog

Dim ond trwy un o ddau borth y mae modd cael mynediad i Gastell Caernarfon, Porth Y Brenin sy’n wynebu’r dref a Phorth Y Frenhines sy’n wynebu’r môr. Defnyddiwyd Porth Y Frenhines bron yn unswydd ar gyfer llwytho cyflenwadau oddi ar longau. Roedd Porth Y Brenin yn gyfan gwbl wahanol; wedi ei adeiladu â thyllau a thyllau saethu er mwyn amddiffyn y castell.  Gellid tywallt dŵr ac olew berwedig ar bobl drwy’r tyllau a saethwyd saethau drwy’r tyllau saethu.

Castell sy’n Amgueddfa

Heddiw, mae’r castell yn atyniad i dwristiaid gaiff ei gydnabod yn fyd-eang  a gall ymwelwyr archwilio’r ystafelloedd a’r tyrau. Mae’r castell hefyd yn gartref i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Nhŵr Y Frenhines – mae’r arddangosfa’n archwilio hanes hir catrawd y Ffiwsilwyr Cymreig ac mae lifrai, gynnau, medalau a phob math o eitemau eraill  i’w gweld yno.

Caernarfon Castle

Arwisgiad Tywysog Cymru

Mae gan y DU Dywysog Cymru o hyd, sef y Tywysog Charles ac fe ddigwydodd yr arwisgiad, sef y seremoni sy’n rhoi’r teitl sywddogol i’r Tywysog, yng nGhastell Carnarfon yn 1969.  Eleni oedd hanner can-mlwyddiant arwisgiad y Tywysog Charles.