fbpx

Thursday, 4 May 2017

[:en]Black Boy Inn – One of Top 10 Pubs in Wales!

Mae’r gwestai yn Eryri yn enwog am fod yn agos ir parc genedlaethol, ond weithiau rydych angen mwy na gologfeudd hardd I wneud y lle yn wirioneddol gofiadwy ac yn rhywle hoffech ddychwelyd i dro ar ôl tro.

Mae Cymru yn enwog am ei amrywiaeth gwych o dafarndai, a phob blwyddyn, mae ‘Wales Online’ yn rhoi at ei gilydd eu casgliad o 50 o dafarnau uchaf yng Nghymru. Fel y gallwch ddychmygu, mae yna dipyn o dafarndai i gael drwy yng Nghymru, ac felly mae’n rhaid i dafarndai cynnig gwasanaeth wirioneddol wych er mwyn eu cynnwys ar y rhestr.

Mae beth sy’n gwneud tafarn da yn wahanol i bawb. I rai, mae’n dibynnu ar y bwyd sy’n cael ei gynnig, ac i eraill, mae yr awyrgylch cyffredinol y lle yn golygu popeth. Wrth gwrs, dylai detholiad gwych o gwrw a gwinoedd fod yn un o’r prif flaenoriaethau.

Yn Nhafarn y Bachgen Du, rydym yn awyddus i sicrhau bod pob un o’n gwesteion yn mwynhau bwyd a diod gwych, mewn awyrgylch clyd. Felly rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael ein enwi ynun or 10 uchaf o’r 50 o dafarnau gorau yng Nghymru.

Rydym ni yn hoff iawn o ganolbwyntio ar gynnal naws draddodiadol y dafarn, felly yn falch bod y Tafarn y Bachgen Du yn cael ei ganmol am ei bar atmosfferig. Gyda 20 o dapiau ar y bar, rydym yn falch cynnwys casgen a keg cwrw o fragdai annibynnol blaengar a chyflenwyr lleol – gydag amrywiaeth sydd yn newid yn gyson i gynnig ein gwesteion amrywiaeth gwych bob tro y byddant yn ymweld â ni.

Yn y gorffennol, rydym wedi gwasanaethu cwrw o fragdai lleol megis Mŵs Piws, wild Horse a Cwrw Llyn.

Mae’r trawstiau derw trwm, nenfydau isel a waliau cerrig traddodiadol ein tafarn yn cynnig profiad unigryw, yn enwedig i’n ymwelwyr o’r tu allan i Gymru. Gallwch chi eistedd yn ôl ac ymlacio o flaen y tân coed agored, ac siarad gyda ymweleyr, ai dysgu ychydig o’r iaith Gymraeg hanesyddol!