fbpx

Wednesday, 11 July 2018

Digwyddiadau Gogledd Cymru– Haf 2018

Mae’r haf yng Ngogledd Cymru yn poethi yng ngwir ystyr y gair, a bydd digon o sêr mawr o bob maes i’w gweld yn yr ardal yr haf hwn.  

Dyma ein rhestr o ddigwyddiadau mae’n rhaid i chi ymweld â nhw yng Ngogledd Cymru.

Mae’r gantores ryngwladol Paloma Faith yn perfformio yn Stadiwm Eirias, a elwir bellach yn Stadiwm Zip World fel rhan o raglen flynyddol Access All Eirias ar 14eg Gorffennaf.

 

 

The Proclaimers

Ddydd Sul 22 Gorffennaf, rydym yn croesawu’r deuawd gwerin-roc chwedlonol The Proclaimers i’n cornel fach o’r byd wrth iddyn nhw berfformio rhai o’u clasuron ‘I’m Gonna Be (500 Miles))’ ac ‘I’m on My Way’ o’r ffilm Shrek. Mae’r Proclaimers yn dipyn o gymeriadau a bydd y gitâr acwstig yn siŵr o lonni eich byd.

 

Kaiser Chiefs

Mae brenhinoedd Indie Rock o gyfnod y 2000au, Kaiser Chiefs, yn ei hôl, dan arweiniad cyn feirniad a hyfforddwr The Voice, Ricky Wilson, fydd yn chwarae rhai o ganeuon yr albwm gyntaf fel ‘Modern Way’, I Predict a Riot’, ‘Oh My God’ a ‘Na Na Na Na Na’, ynghyd â rhai caneuon newydd, yn ôl y sôn. Nhw fydd yn arwain y perfformiadau yn LLANFEST yng Ngŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n cael ei chynnal rhwng y 3ydd a’r 8fed o Orffennaf.

Electric Wave Festival

Mae Gŵyl Electric Wave yn Syrffio Eryri yn cynnig arlwy gwych gyda ‘Black Grape’, Bez o’r ‘Happy Mondays’, ‘From the Jam’ a ‘Dub Pistols’ a Steve Cradock. Heb sôn am westai arbennig iawn – Chico o’r X-Factor! Mae’n mynd i fod yn dipyn o sioe gyda’r cerddorion anhygoel hyn. Mae Electric Wave yn cael ei gynnal rhwng y 13eg a’r 15fed o Awst.

 

Wow – arhoswch i weld beth arall sydd ar y gweill ar gyfer y noson wych hon!

Gŵyl Rhif 6 

Gŵyl Rhif 6 – credwch neu beidio, mae’r grŵp chwedlonol ‘Friendly Fires’ yn dod i Ogledd Cymru, gyda The The a Franz Ferdinand yn galw heibio’r ŵyl mewn ffrwydrad o gerddoriaeth ac amser da. Heb sôn am Ride, Django Django a Hot Chip sy’n barod i’ch cyfareddu gyda’u cerddoriaeth. Cynhelir Gŵyl Rhif 6 rhwng y 6ed a’r 9fed o Fedi.

Shrek the Musical

Shek himself is coming to play, charging along with Dragon and Donkey into the grand castle of Venue Cymru in the singing and dancing musical come and see on dates from 21st August to 2nd September 2018.