fbpx

Tuesday, 30 April 2019

Danteithion Cymreig

Beth mae Cymru yn ei olygu i chi? Miloedd o flynyddoedd o hanes a diwylliant? Yr iaith hynafol sydd wedi addasu gyda’i phobl i fod yn symbol o etifeddiaeth, diwylliant ac angerdd? Y bryniau a’r pantiau, a’r golygfeydd godidog o’r môr? Neu, yn syml… y bwyd?

Doedd bod yn Gymry a bod yn cŵl ddim yn cyd-fynd tan yn ddiweddar. Mae’r syniad o Gymreictod wastad wedi bod yn gysylltiedig â defaid, ffermwyr, glo a chwareli, a mudiad gwrth-Seisnig ffyrnig. Yna daeth yr ymgyrch Cŵl-Cymru, a roddodd hwb i fandiau a cherddorion o Gymru a gafodd lwyddiant yn y siartiau yng nghanol y 90au. Ymysg y rhain roedd y Stereophonics a Goldie Lookin’ Chain. Mwyaf sydyn, roedd hi’n cŵl dod o Gymru.

Pa wleddau oedd y genhedlaeth honno o artistiaid yn eu mwynhau yn eu cartrefi Cymreig? Mae’n deg dweud nad oeddent yn gallu cystadlu â’r bwyd gorau o Ffrainc, yr Eidal neu India, ond mae’r cogyddion gorau o Gymru yn mynd ati i newid hynny.

Roedd dulliau coginio Cymreig yn seiliedig ar ddeiet y gweithiwr. Trowch y cloc yn ôl ddim mwy na saith deg neu wyth deg o flynyddoedd yn ôl ac roedd bywyd yn galed i’r ffermwr, y glöwr, y chwarelwr neu’r pysgotwr cyffredin yng Nghymru. Roedd trigolion yn bwyta’r hyn roedd ganddyn nhw ac yn gwneud y mwyaf o’r dirwedd wlyb a gwyllt. Mae bwyd yng Nghymru wastad wedi bod yn seiliedig ar gynnyrch lleol, tymhorol a thraddodiadol wedi’u cael gan bobl a lleoedd sy’n gymdogion ac yn ffrindiau; ymhell cyn mai “tymhorol” a “lleol” oedd prif eiriau’r byd bwyd yn yr ugeinfed ganrif.

Mae’r crochan yn hollbwysig yng Nghymru. Ynddo, gallwch goginio cawl a stiwiau sylweddol a swmpus. Roedden nhw’n cael eu gwneud gyda’r darnau o gig oen neu gig dafad oedd yn weddill yn y gaeaf, a pha lysiau bynnag oedd o gwmpas. Byddai ychydig o facwn ynddyn nhw hefyd, os oeddech chi’n lwcus.

Ymysg y danteithion Cymreig traddodiadol mae ffagots, selsig Morgannwg (sydd ddim yn cynnwys cig o gwbl, ond sy’n siâp selsig ac wedi’i wneud o gaws, nionod a briwsion bara) a Phwdin Eryri (sy’n cynnwys siwet a ffrwythau wedi’u sychu).

Yn enwog am ei flas ysgafn a chynnil, mae cig oen morfa heli yn dod o gorsydd gogledd orllewin Cymru, lle mae amrywiaeth helaeth o blanhigion morfa i’r ŵyn eu bwyta bob dydd. Mae’r morfeydd heli hyn yn lladd mwy o facteria niweidiol yn naturiol, sy’n golygu nad yw’r ŵyn yn llawn cemegion a phlaleiddiaid. Mae hefyd yn darparu cig mwy blasus a mwy melys.

Bara Brith ydy torth ffrwythau enwog Cymru. Ceir cacenni cri hefyd, sy’n llawn ffrwythau wedi’u sychu, ychydig o sbeis ac sy’n cael eu gweini’n draddodiadol â digonedd o fenyn Cymreig. Wrth eich bodd ar fwyd y môr? Rhowch gynnig ar Deisennau Cocos, math o grempog cocos. Neu dewch i drio Bara Lawr, sy’n prysur ddod yn ôl mewn ffasiwn. Y ffordd orau o’i ddisgrifio ydy ei fod yn ludiog, yn drwchus, yn dywyll a ddim yn annhebyg i wymon – dim byd fel bara yn yr ystyr traddodiadol! Am sbel, roedd hwn yn gynhwysyn hanfodol ar unrhyw fwydlen Michelin werth ei Halen Môn.

Y llun: zingyyellow  https://www.flickr.com/photos/zingyyellow/3320696816