fbpx

ANTURIAETHAU AWYR AGORED

O lethrau Eryri i Raeadr dangnefeddus Aber, dydych chi byth yn bell o antur yng ngogledd Cymru. Mae llond gwlad o fewn cyrraedd Tafarn y Black Boy.

PEN Y GOGARTH

Unwaith rydych chi’n cyrraedd Llandudno, mae’n anodd methu Pen y Gogarth. Mae fel petai bod y dref yn ei gysgod. Er eich bod yn gallu cerdded at y tirnod aruthrol, mae teithio i’r copa mewn ceir cebl yn brofiad bythgofiadwy. Cewch olygfa banoramig o’r ardal gyfagos gannoedd o droedfeddi yn yr awyr!

COED Y BRENIN

Mae gwefr go iawn i bobl sy’n ffynnu ar adrenalin yng Nghoed y Brenin: llwybr delfrydol i bob beiciwr. Mae’r cwrs wedi cael ei gynllunio’n arbennig i roi her i ymwelwyr, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes croeso i ddechreuwyr – mae croeso i feicwyr o bob gallu.

Snowdonia Walking and Climbing

Well gennych fod ar ddwy droed, ac eisiau bod yng nghanol cerddwyr o’r un anian a golygfeydd hyfryd gogledd Cymru? Mae Snowdonia Walking and Climbing yn cynnig profiadau gwych yn Eryri, a fydd yn mynd â chi’n uwch nag y buoch erioed.

BEICS ANTUR

Pe baech chi’n dymuno archwilio golygfeydd gogledd Cymru o’ch dewis eich hun, beth am logi beic gan Beics Menai a mynd amdani? Weithiau mae gwibio drwy ardaloedd gwledig ar eich pen eich hun yn brofiad mwy gwerth chweil na bod yn aelod o barti, ac mae’n sicr yn clirio’r meddwl.

PARC COED Y SIPSIWN

Nawr am rywbeth i bawb yn Bontnewydd. Mae Parc Coed y Sipsiwn yn ddiwrnod gwych i bobl o bob oedran ac mae digon yno i ddiddanu teuluoedd am ddiwrnod cyfan. Fe allwch chi hyd yn oed gwrdd â seleb lleol – Bobi’r Iâr!