fbpx

GWEITHGAREDDAU DAN DO

Tywydd anwadal enwog Cymru wedi difetha eich cynlluniau? Dim problem! Mae llond gwlad o weithgareddau cyffrous i’w mwynhau gan aros yn sych ar yr un pryd.

LABRINTH Y BRENIN ARTHUR

Mae Labrinth y Brenin Arthur ym Machynlleth yn gyrchfan poblogaidd i’r rhai sy’n dymuno dysgu mwy am yr ardal leol a’r chwedl sy’n gysylltiedig â’r labrinth ei hun. Os ydy taith gwch yn y tywyllwch wrth i gychwr sinistr adrodd hanesion y brenin mawr yn swnio fel amser gwych, byddwch chi ar ben eich digon.

GWAITH COPR SYGUN

Ddim yn annhebyg i’r labrinth, mae Gwaith Copr Sygun yn antur danddaearol gyfareddol sy’n archwilio gorffennol gweithgar gogledd Cymru. Bydd gweld yr hen waith copr wedi’i oleuo yn atgof bythgofiadwy a dyma un o’r prif resymau pam mae wedi ennill nifer o wobrau twristiaeth dros y blynyddoedd.

Mae diwrnod mwy hamddenol o lawer i’w gael yn Wollen Mills yn Nhrefriw i’r rhai y mae tapestri yn taro tant â nhw. Mae rhai yn dweud ei fod yn fath o gelf ac efallai fod hynny’n wir o ystyried faint o ymroddiad a chywreinrwydd sydd ym mhob darn.

A far gentler pace awaits at the Woollen Mills in Trefriw for those with the patience for tapestry. To say that it’s an art form might not be far from reality as the amount of dedication and intricacy which goes into each piece is not to be undervalued.

INIGO JONES

Hyd yn oed os nad yw Inigo Jones yn enw cyfarwydd, mae’n amhosib peidio edmygu ei lwyddiant fel un o benseiri gwreiddiol Prydain. Mae crefft yr arloeswr ym maes gwaith llechi i’w weld yn amlwg yng Ngwaith Llechi Inigo Jones: diwrnod perffaith i’r rhai â’u bryd ar hanes.