fbpx

CESTYLL

Mae cestyll yn gyfystyr â Chymru. Mae’n anodd dychmygu’r rhanbarth hyfryd hon heb gestyll â’u cysgod dros y gorwel, yn eich gwahodd i ddod i ddarganfod eu hanes. Mae llyfrau a chaneuon dirifedi am y tirnodau anhygoel hyn ond oni bai eich bod wedi ymweld ag un, fedrwch chi ddim dweud eich bod yn gwybod popeth amdanyn nhw.

CASTELL CAERNARFON

Tafliad carreg o Dafarn y Black Boy, Castell Caernarfon yw un o’r cestyll drytaf a adeiladwyd erioed, ac nid yw’n gyflawn eto hyd yn oed! Roedd cost aruthrol adeiladu’r strwythur enwog ymysg y rhesymau lu dros y Cymry’n gwrthryfela yn erbyn yr hen reolaeth Saesnig, gan ennill unwaith neu ddwywaith!

CASTELL BIWMARES

Yn debyg iawn i Gastell Caernarfon, adeilad Seisnig oedd Castell Biwmares a’i brif bwrpas oedd arwain concwest Edward I yng Nghymru. Hefyd yn debyg i un Caernarfon, chafodd Castell Biwmares byth ei gwblhau, ond mae’n dal yn olygfa drawiadol i lawer o ymwelwyr bob blwyddyn.

CASTELL PENRHYN

Yn ddryslyd braidd, does dim modd dosbarthu Castell Penrhyn yn gastell gan ei fod yn debycach i blasty coeth na chaer fygythiol. Mae dyluniad trawiadol a gerddi gogoneddus y lleoliad yn sicr yn gwneud iawn am ei ddiffyg ymarferoldeb amddiffynnol. Ond byddech chi’n disgwyl dim llai os yw’n werth £50,000,000 yn ôl yr amcangyfrifon!