fbpx

Tuesday, 30 October 2018

Caernarfon – Hanes y Dref ger y Dŵr

Canrifoedd o Ddibynnu ar y Môr

by Paul Sandby

I ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru rydyn ni wedi llunio erthygl am hanes morol Caernarfon. Nid yw’n gyfrinach bod Caernarfon yn amddiffyn ceg Culfor Menai rhag dyfroedd agored Môr Iwerddon.

Cafodd tref Caernarfon ei lleoli wrth geg yr afon er mwyn amddiffyn y safle strategol hollbwysig hwn, sy’n llwybr pwysig er mwyn gallu cael mynediad at Arfordir Gogleddol a Gorllewinol Cymru, yn ogystal â goruchwylio’r llwybr i Ynys Môn.

Byddai cyflenwadau i Gastell Caernarfon a’r dref o’i gwmpas bob amser yn dod dros y môr oherwydd bod y lluoedd Cymreig mor fedrus am gudd-ymosod ar finteioedd pan fyddant yn cludo nwyddau ar y tir. Felly, drwy ddefnyddio’r môr, ni fyddent yn gallu defnyddio eu technegau cuddymosod troseddol.

Ysgol y Morwyr

Richard Wilson – ‘Caernarvon Castle’ circa 1745

A wyddech chi fod ysgol i forwyr a llongwyr yng Nghaernarfon erstalwm? Roedd yn cael ei rhedeg gan ddynes o’r enw Ellen Edwards a ddaeth i fyw i Gaernarfon yn ystod y 1830au. Fe ddysgodd gannoedd o ddynion lleol am forwriaeth a sut i lywio llongau, nes y bu farw yn 1889. Roedd yn ferch i’r capten William Francis o Amlwch, Ynys Môn, a fu’n athro llywio llongau ei hun. Yn ei blynyddoedd diwethaf bu ei merch, Ellen Evans, yn ei helpu. Does dim rhaid i mi bwysleisio bod cyfleoedd yn brin i ferched yn yr oes honno, felly roedd agor ysgol a gafodd gymaint o lwyddiant yn gamp aruthrol i ddynes bryd hynny. Mae’n siŵr ei bod wedi bod yn y Black Boy ambell waith!

Cartref y Clwb Iotio Hynaf yn y Byd

by Eric Jones

Heddiw, mae Caernarfon yn gartref i Glwb Iotio Brenhinol Cymru ym Mhorth yr Aur, sef yr adeilad clwb iotio hynaf yn y byd. Oddi yno, ceir golygfeydd godidog o’r Fenai a’r hen dref gaerog. Mae cysylltiadau’r dref hon â’r môr a hwylio, a ddatblygodd yn sgil ei lle arbennig mewn hanes, mor fyw ag erioed.

Mae’r Clwb yn cynnal Regata flynyddol ar y Fenai ac mae clybiau eraill yn dod i ymuno yn y digwyddiad traddodiadol hwn.

Hen Dref Bysgota

Mae Caernarfon yn lle gwych i bysgota hefyd, ac mae pysgotwyr yn mentro i’r Fenai i geisio torri’r record am y Merfog Du mwyaf i gael ei ddal erioed. Torrwyd y record hon ger pier y dref nifer o flynyddoedd yn ôl. Canolfan Bysgota Caernarfon ydy’r lle i fynd os oes angen taclau ac offer pysgota arnoch chi er mwyn mynd i fwynhau pysgota yn nyfroedd gleision Bae Caernarfon. Mae Tafarn y Black Boy yn falch iawn o gyflenwi bwyd môr lleol gan bysgotwyr lleol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl am einbwyd môr.

Cwch Pren Caernarfon

Cafodd y Cwch Pren ei ddarganfod yng Nghaernarfon yn yr 20fed ganrif. Treuliodd lawer o amser y tu allan i garejis yng Nghaernarfon cyn dod i feddiant amgueddfa forol Llŷn yn y 1970au. Mae’r ymchwil a wnaed wedi cadarnhau bod y cwch wedi’i greu o bren caled sy’n debygol o fod wedi dod o Orllewin Affrica. Mae cymariaethau ethnograffig wedi datgelu ei fod yn debyg i’r cychod a oedd i’w gweld yn Nelta Niger, Gorllewin Affrica, gyda’i flaen pigog a’r sedd yn y rhan ôl.

Un o’r posibiliadau yw bod y cwch wedi dod yn sgil y llongau masnach a oedd yn hwylio o Lerpwl i Orllewin Affrica i fasnachu olew palmwydd; byddai’r ‘krooboys’ lleol (dynion ifanc o Affrica a  oedd yn gweithio yn y ‘criw’) yn rhwyfo draw yn eu cychod pren i geisio cael gwaith ar y llongau. Bob hyn a hyn, byddai’r krooboys yma yn aros ar y llong ac yn mynd yn ôl i Loegr. Fodd bynnag, yn hytrach na thalu costau dadlwytho yn y porthladdoedd, byddai eu cychod pren yn cael eu taflu i’r dŵr. Gallai Cwch Pren Caernarfon fod yn un o’r enghreifftiau hyn; gallai fod wedi arnofio i ddyfroedd Caernarfon ar ôl cael ei daflu oddi ar y llong.