fbpx

Tuesday, 8 October 2019

Tafarn y Black Boy yn ennill pleidlais Y Lle Gorau yng Nghaernarfon ar gyfer ei Wasanaeth a’r Awyrgylch

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ennill pleidlais ‘Y Lle Gorau yng Nghaernarfon ar gyfer Gwasanaeth ac Awyrgylch’ gan y Restaurant Guru.

Safle ar-lein yw’r Restaurant Guru ar gyfer darganfod llefydd gwych i fwyta ac mae’n rhoi’r cyfle i ymwelwyr ysgrifennu adolygiadau.

Darllenwch ein cofnod yma neu darllenwch y crynodeb isod. Gallwch hefyd weld rhestr o’n hadolygiadau ar-lein o ffynonellau megis Yelp, TripAdvisor, Fousquare, Google a Facebook.

“Yma, mae gwesteion yn mwynhau cynnwys y Bocs Celf ac yn cadw bwrdd ar gyfer prydau bwyd da. Mae’r gwesteion yn hoffi’r bwyd Prydeinig yn y bar hwn. Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol ac archebwch bastai gig, coes oen wedi’i brwysio neu stêc flasus yn y Black Boy. Ar y fwydlen gallwch ddewis bwdin taffi gludiog blasus, crymbl afal neu bastai tatws melys. Mae’n debyg y byddwch yn dod yn ôl yma’n hwyrach i flasu cwrw casgen blasus, cwrw drafft neu wisgi brag. Cewch gynnig coffi, te neu sudd ffrwythau.

Gall plant ddewis bwyd o’r fwydlen i blant. Mae’r staff yn glên, dyna sy’n gwneud y lle mor braf. Mae ymwelwyr yn dweud bod y gwasanaeth yn wych yma. Mae’r prisiau’n fforddiadwy o safbwynt yr ymwelwyr. Gyda’r dodrefn a’r addurniadau bendigedig a’r awyrgylch swynol mae’r cwsmeriaid yn gallu ymlacio’n llwyr yma. Mae ein sgôr cleientiaid ar TripAdvisor yn 4.5 .”
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r Restaurant Guru am y wobr wych hon.
Tarwch olwg ar ein Bwydlenni