fbpx

Tuesday, 8 October 2019

Cofeb Lionel Rees, VC

Ganwyd yr arwr rhyfel Lionel Rees yng Nghaernarfon ac fe’i magwyd yn 5 Stryd Y Lionel Rees VCCastell, sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Dafarn y Black Boy; mae wedi ei leoli’r drws nesaf i  ‘Tŷ Dre’.

Derbyniodd Lionel Rees y Groes Fictoraidd fawreddog am ei gampau fel peilot ymladd yn 1916. Roedd yn aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Cymru, sydd wedi’i leoli mewn tŵr canoloesol ym Mhorth yr Aur, lle mae plac yn ei anrhydeddu.

Ar ôl ei blentyndod yng Nghaernarfon aeth i’r ysgol yn Swydd Caerwrangon a Sussex, yna mynychodd yr Academi Filwrol Frenhinol. Yn 1903 ymunodd â’r Royal Garrison Artillery a gwasanaethu am chwe blynedd yng Ngorllewin Affrica.

Cafodd Lionel wersi hedfan a arweiniodd at ennill trwydded fel peilot yn 1913.  Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf gwirfoddolodd Lionel ar fyrder â’r Corfflu Hedfan Brenhinol a chafodd ei anfon i’r Ffrynt Gorllewinol yn 1915. Yn ystod yr haf hwnnw, derbyniodd Lionel y Groes Filwrol am ei ddewrder a’i ddycnwch mewn sawl  cyfarfyddiad ag awyrennau’r gelyn.

Ar y 1af o Orffennaf, 1916, wrth i Frwydr y Somme ddechrau, bu farw miloedd o filwyr Prydain. Roedd awyrennau ymladd Prydain a’r Almaen yn gwrthdaro’n wyllt uwchben. Yn hwyr yn y prynhawn gwelodd Lionel yr hyn a gredai oedd yn fomwyr Prydeinig; ond Almaenig oedden nhw. Yn lle cilio, aeth ymlaen yn eofn yn ei awyren dwy adain. Fe saethwyd un awyren gan ei ynnwr a difrodwyd un arall. Er bod niferoedd llawer mwy o’r gelyn, parhaodd i ymladd nes bod bwledi’r gwn peiriant wedi gorffen – dyma pryd y dechreuodd Lionel danio ei wn llaw.

Yn  anffodus difrodwyd ei awyren gan fwledi gynnau peiriant Almaenig ac fe’i saethwyd Lionel yn ei glun chwith. Serch hyn, llwyddodd i lanio ei awyren yn llwyddiannus a bu yn yr ysbyty am chwe mis yn gwella.  Derbyniodd Groes Fictoria, y wobr fwyaf nodedig am ddewrder ym Mhrydain, am ei weithredoedd arwrol y diwrnod tyngedfennol hwnnw.

Ar ôl iddo wella, anfonwyd Lionel draw i America er mwyn cynghori byddin yr Unol Daleithiau ar sefydlu corfflu awyr.  Ar ôl y rhyfel cafodd amryw swyddi pwysig yn y Llu Awyr Brenhinol, gan ymddeol yn 1931, ond cafodd ei alw’n ôl yn yr Ail Ryfel Byd.

Pan nad oedd yn arwr rhyfel, roedd yn hwyliwr angerddol. Yng Ngorffennaf 1933, gadawodd Lionel Caernarfon yn ei gwch dau fast ar daith unigol i’r Bahamas! Cyrhaeddodd yno fis Hydref yr un flwyddyn.