Cerdded Caernarfon
TEITHIAU Caernarfon gyda Emrys
Mae sawl gwahanol taith gerdded i’w cael yn Gymraeg.
i) ‘TYD AM DRO CO’ – Cychwyn wrth ymyl Lloyd George ar y Maes – Taith awr a hanner o amgylch yr hen dre gaerog. Sôn am adeiladau, pobol a hanes. Tu mewn a thu allan ac i fyny walia’r dre. Dalier sylw:- mae’r daith yn cynnwys cerdded ar ran fer o waliau’r hen dref. £7.50 y pen
ii) ‘TYD AM DRO ETO CO’ – Cychwyn wrth ymyl Amgueddfa’r Môr, Doc Victoria – Taith tua awr a hanner yn sôn am y porthladd, y capteiniaid ac ambell stori am ferchaid y stryd! £7.50 y pen
iii) ‘MA NHW, ME FI’ – 5 Cofi, 5 tŷ potas a stori ym mhob tafarn – tua 2 awr (dibynu ar faint o lysh mae pobol yn ei yfed!) anaddas i blant a phobol parchus! h.y. ni fydd plant yn cael dod ar y daith yma. Addas iawn i nosweithiau stag neu partis penblwydd! £10.00 y pen
iv) TY’D AM DRO ROMANS COVIS – Taith o`r Maes i Segontium ac ymweld a`r gaer yna i weld safle`r Mithreium, Eglwys Llanbeblig ac i lawr i Henwalia – £10.00 y pen
v) TY’D am DRO HIR, CO
Dewch am dro hir o amgylch cyrion Caernarfon efo Emrys
Mae angen sgidiau call –
Dim Hei-hils!
Taith y parhau dwy awr a hanner
Y Daith: Cychwyn yn Doc Fictoria, Ben Twtil, Segontium, Llanbeblig ac ar hyd yr afon Seiont yn ôl i Dre