fbpx

Tuesday, 12 June 2018

Caernarfon yn blodeuo

Castell, cyfoeth a chwa o liw

Dengys y dref hon entrepreneuriaeth ac egni cymunedol gyda dros 320 busnes yn cyfrannu 1% yn ychwanegol at eu trethi er mwyn llunio Hwb Caernarfon – cymuned a grëwyd i roi hwb i ffyniant y dref.

Mae waliau hynafol Caernarfon yn barod i’w hail-wampio!  Fel rhan o gynllun arloesol i roi lliw a bywyd newydd i’r dref, bydd blaen siopau’r prif strydoedd yn cael eu peintio, a bydd dros 300 o fasgedi crog lliwgar yn cael eu hongian.

Mae’r dref hanesyddol hon yn atyniad enfawr i dwristiaeth o bob cwr o’r wlad a thu hwnt ac mae modd cyrraedd y dref yn hwylus ar fws neu gar.  Caernarfon yw’r dref ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad fwyaf yng Nghymru.  Gwelir baneri’r Ddraig Goch yn cyhwfan yn ogystal â baneri Owain Glyndŵr a Dewi Sant.

Mewn ymgais i atal y gwylanod ymosodol, penodwyd Elsa y dylluan gorniog i yrru’r adar ymaith o’r dref am gyfnod o 6 wythnos.

Yn ogystal fe ymrwymodd y Cyngor i: gynyddu pa mor aml y torrir y gwair; dalu am 200 awr ychwanegol i lanhau’r strydoedd; asesu cyflwr, a’r angen am loches bws ychwanegol; asesu lleoliad biniau sbwriel a biniau baw cŵn gan ystyried yr angen am ragor ohonynt.

Caernarfon ar ei newid wedd

Dywedodd Rheolwr Hwb Caernarfon, Gavin Owen i Gyngor Gwynedd ofyn i fusnesau’r dref gefnogi syniad o ‘ardal gwella busnes’, er mwyn gweithio i wedd-newid y dref.

Bwriad y gymuned yw: sefydlu gwefan newydd ar gyfer ymweld â Chaernarfon; cynllunio feinyl i’w gosod yn ffenestri siopau gwag y dref er mwyn tynnu sylw at atyniadau’r ardal; edrych ar ail agor y ganolfan dwristiaeth, a darparu wifi am ddim yng nghanol y dref.

Mae’r cynllun marchnata 3 blynedd yn cynnwys trefnu yr ŵyl fwyd, carnifal, ffair nadolig, cyngerdd blwyddyn newydd ac ati.