| Black Boy Inn

Posted on 8 Oct 2019

Camgymeriad fyddai anwybyddu’r safleoedd hanesyddol yr ardal wrth ymweld â Gogledd Cymru. Mae casgliad o adeiladau rhyfeddol ac ardaloedd a safleoedd o brydferthwch ar draws Cymru gyfan – ac mae rhai ohonynt mor unigryw a phwysig o ran ein hanes, ein dealltwriaeth o’n byd a’n diwylliant fel eu bod wedi derbyn statws Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Mae dros 900 o safleoedd ledled y byd ar restr Treftadaeth y Byd UNESCO; gyda’r Taj Mahal, Wal Fawr China a Phyramidiau’r Aifft yn rhai o’r enghreifftiau enwocaf. Mae gan y DU bron i 30 safle ar y rhestr;  ac mae rhai o’r goreuon yma yng Ngogledd Cymru.

Caernarfon Castle

 

Cestyll Edward I yng Ngogledd Cymru.

Wrth ymweld â’r amddiffynfeydd nodedig hyn, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r rheswm dros eu hadeiladu.  Gadewch i’ch hunan deithio’n ôl i’r flwyddyn 1272; wedi blynyddoedd o ryfel cartref ac ansefydlogrwydd mae cythrwfl yn Lloegr. Mae’r brenin newydd Edward I yn benderfynol o adfer heddwch a chytgord – ac mae ei gynllun yn canolbwyntio ar Gymru, cymydog anfodlon Lloegr.  Roedd y tensiynau rhwng arweinwyr Cymru a Lloegr wedi bod yn mudferwi ers blynyddoedd, ac erbyn 1277, roedd Edward wedi cael digon.

Nid oedd ymosod ar Gymru’n mynd i weithio bellach, yn hytrach byddai’n rhaid iddo adeiladu amddiffynfeydd anferthol i dawelu’r rhyfelwyr Cymreig a’u dychryn nes eu bod yn ildio – a’u hatgoffa o rym y llywodraethwyr Seisnig newydd.  Fe weithiodd y cynllun, ac erbyn 1284 ymgorfforwyd Cymru’n rhan o Loegr a lladdwyd tywysog annwyl Cymru mewn brwydr.

Adeiladwyd y cestyll, y ‘Cylch o Haearn’ fel y’u gelwid, mewn safleoedd allweddol amlwg ar hyd arfordir Cymru.  Mae’r cestyll mwyaf i’w gweld yng Nghonwy, Caernarfon, Biwmares a Harlech – mae pob un un eithaf tebyg ond maent wedi eu dylunio’n unol â thirwedd y lleoliad.

Conwy Castle

Wedi sefyll am bron i 800 mlynedd, mae’r cestyll creulon hyn wedi goroesi nifer dirifedi o frwydrau ac ymosodiadau ac maent mewn cyflwr da ar y cyfan.  Maent yn ein hatgoffa o bensaernïaeth cestyll canoloesol ac o benderfyniad brenhinoedd Loegr i reoli’r Cymry.
Fel cydnabyddiaeth o’u pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol, roedd y cestyll hyn ymhlith y safleoedd cyntaf yn y DU i dderbyn statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986. Felly, peidiwch ag aros. Ewch i archwilio cestyll byd enwog Gogledd Cymru drosoch eich hun!

..