fbpx

Thursday, 10 May 2018

2018 Blwyddyn BWYD MÔR

Mae’n Flwyddyn y Môr yng Nghymru, ac rydym am fynd amdani er mwyn canu clodydd ein harfordir anhygoel – ac wrth gwrs, gan mai tŷ bwyta ydyn ni, rydym ni’n mynd i sôn am fwyd môr!

Mae bioamrywiaeth Gogledd Cymru yn achos dathlu, ac mae ein harfordir eang ysgubol yn llawn pysgod o bob math.

Rydym yn dathlu bwyd lleol, ac felly, rydym yn gwneud ein gorau glas i ddefnyddio pysgod sy’n cael eu dal yn lleol – a ‘Mike Fish’ sy’n ein cyflenwi ni – sy’n dal ac yn cyflenwi pysgod blasus sydd wedi’u dal yn lleol.

Fish Dinner at Black Boy

Diolch i’n harfordir anhygoel, rydym hefyd ar fin cynnal Pencampwriaeth Pysgota Glannau’r Byd yn 2018.

Mewn gwirionedd – Caernarfon yw un o’r llefydd gorau ar gyfer pysgota, gyda nifer o bysgotwyr brwd yn dewis y moroedd a’r llynnoedd o gwmpas yr ardal fel eu hoff le i bysgota i gael cyflenwad o safon o Gymru. Mae pier tref Caernarfon yn un o hoff lefydd pysgotwyr wrth iddyn nhw geisio torri’r record am y Merfog Du  (Black Bream) a gafodd ei ddal oddi ar y pier flynyddoedd lawer yn ôl.

Os nad ydych chi wedi clywed yn barod – rydym yn dod â’n cariad at fwyd môr i Ŵyl Fwyd Caernarfon, lle bydd ein stondin yn gwerthu Cregyn Gleision, Cocos a Bacwn a Paella.

Gyda golwg ar warchod bioamrywiaeth anhygoel y môr, mae’r holl bysgod rydym yn eu defnyddio yn cael eu dal drwy’r ffordd swyddogol gan ddefnyddio cyflenwyr sydd wedi’u hardystio.

Yn y Black Boy Inn, mae ein bwyd môr yn adnabyddus gan bobl leol a theithwyr fel ei gilydd, sy’n mwynhau sgod a sglods, eog wedi’i fygu, pastai pysgod, hadog, cimwch a llawer mwy.

Rydym yn cynnal treftadaeth forwrol tref  Caernarfon ar lannau’r Fenai, ac yn falch o allu cynnig amrywiaeth eang o’r bwyd môr gorau yn y wlad.

Dyma rai adolygiadau o’n bwyd môr – “Cregyn gleision ffres, lleol wedi’u coginio’n  berffaith mewn saws garlleg, gwin gwyn a hufen, gyda bara crystiog ar yr ochr. Fe wnaethon ni fwynhau diwrnod hyfryd o haf a bwyta’n yr ardd gwrw. Cafodd un o’n grŵp y salad cimwch oedd r’un mor arbennig.”

“Bwyd gwych. Cregyn gleision a chrymbl physgod. Wrth fy modd.”

“Ges i’r cegddu (hake) a chafodd fy ngŵr y stiw pysgod (os dwi’n cofio’n iawn). Dyma ddarn hyfryd o bysgodyn. Roedd y gwasanaeth yn dda, a doedd dim rhaid aros yn hir.”

“.. Penderfynodd y ddau ohono ni gael y pysgodyn a’r sglodion ac roedd y pryd yn enfawr –  a’r pysgodyn yn fendigedig mewn cytew ysgafn hyfryd”.