fbpx

Friday, 22 June 2018

10 Lle yn Ardal Eryri Fydd yn Berffaith ar Gyfer Eich Cyfrif Instagram

Gyda’r ap poblogaidd yn ehangu ei apêl drwy’r amser, rydym yn deall bod lluniau Instagram da yn hollbwysig ar unrhyw daith. Gyda hynny mewn cof, rydym wedi casglu rhestr o 10 o lefydd yn yr ardal fyddai’n berffaith ar gyfer eich cyfrif Instagram. Mae’r holl leoliadau hyn i gyd o fewn pellter hwylus i’n gwesty yn Eryri, ac felly, mewn lle ddelfrydol i archwilio’r rhanbarth.

 

Betws Y Coed

Yn enwog fel porth i Eryri, mae Betws y Coed yn bentref twristaidd hynod adnabyddus a phoblogaidd sydd wedi’i gadw’n naturiol. Y lle enwocaf yn y pentref yw’r rhaeadr sy’n llifo drwy ganol y pentref.

 

Copa’r Wyddfa

Pan fyddwch yn wynebu’r sialens hir a heriol o ddringo’r Wyddfa, cewch eich gwobrwyo â golygfa eithriadol o gopa gogoneddus y mynydd.

 

Pentref Portmeirion

Ar ôl camu i’r pentref hwn, byddwch wedi anghofio mai yng Nghymru rydych chi, ond yn hytrach, eich bod wedi dianc i Fôr y Canoldir. Mae’r pentref cyfan wedi’i gynllunio ar ffurf pentref Eidalaidd.

 


Castell Caernarfon

Adeiladwyd y castell mawreddog hwn flynyddoedd lawer yn ôl ac mae’n dal i sefyll fel un o strwythurau canoloesol mwyaf trawiadol y DU. Oherwydd ei fod yn strwythur monolithig mor enfawr, gallwch ei weld o bobman yn yr ardal gyfagos, yn ogystal â thu mewn i’r castell wrth gwrs. Mae Cadw, y corff sy’n gyfrifol am y castell, yn codi ffi mynediad.

 


Gerddi Bodnant

Mae’n bleser pur ymweld â’r gerddi drwy gydol y flwyddyn, gan fod pob un o’r pedwar tymor yn dod â’i harddwch arbennig ei hun. Yn y gwanwyn, gallwch weld y blodau’n blaguro, mwynhau pelydrau’r haul euraidd a’r planhigion bywiog gwyrdd yn yr haf, cochni’r dail yn yr hydref a gogoniant go iawn y gaeaf.

 

Conwy

Bant â ni! Dyma dref arall sydd â chastell canoloesol anhygoel. Mae’r castell hwn wedi’i leoli wrth ymyl aber yr afon Conwy.

conwy castle

 

Dyffryn Ogwen

Ar waelod mynydd creigiog Tryfan, mae Dyffryn Ogwen, sy’n gartref i lyn gwych Ogwen a golygfeydd godidog ar hyd y dyffryn.

 

Tryfan

Mae’r cawr caregog hwn yn gartref i rai o’r lleoliadau a’r golygfeydd mwyaf anhygoel yng Ngogledd Cymru ar gyfer eich cyfrif Instagram. Ar y copa, ceir dwy garreg fawr o’r enw Adda ac Efa.

 

Cwm Idwal

Wel, dyna i chi olygfa! Mae siâp naturiol y dyffryn 3 ochr hwn eisoes yn ddigon trawiadol, ond o gyfuno ychydig o eira a rhywfaint o niwl isel, mae’r olygfa gyda’r orau yn y byd.

 

Llyn Padarn

Mae Llyn Padarn yn Llanberis yn atyniad enwog, yn bennaf oherwydd ei fod union wrth ymyl un o unig gestyll Tywysogion Cymru sydd ar ôl. Dyma un o hoff olygfeydd ffotograffwyr yn ardal Eryri.