ardal leol
Yn Nhafarn y Black Boy, mae harddwch ysblennydd Gogledd Cymru ar stepen ein drws, gyda phopeth at ddant pawb.
Nid oes raid ichi fynd yn bell i fanteisio ar yr atyniadau diri sydd gan dref Caernarfon a’r ardal o’i chwmpas i’w cynnig.
Er enghraifft, dim ond munud o waith cerdded o’r dafarn mae castell mwyaf ysblennydd Cymru; Safle Treftadaeth Byd godidog sy’n llawn presenoldeb a godwyd gan Edward I i frolio grym y Saeson yn y Canol Oesoedd. Naw can llath ymhellach draw mae man cychwyn Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n cynnig taith ar un o drenau bach stêm mwyaf pwerus y byd.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y car mae Parc Cenedlaethol Eryri sy’n brolio’r mynydd uchaf yng Nghymru, ac Ynys Môn, sy’n gartref i Gastell Biwmares, y castell olaf a’r mwyaf i’w godi yng Nghymru.
