fbpx

GWASANAETHAU A CHYFLEUSTERAU

Yma yn Nhafarn y Black Boy rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth personol. O’r foment byddwch yn cyrraedd bydd ein staff cyfeillgar wrth law bob amser i gynnig cymorth a rhannu eu gwybodaeth leol.

  • Brecwast llawn yn cael ei goginio ar archeb.
  • Mae modd parcio am dâl mewn amryw o feysydd parcio yng nghanol y dref. Mae pob un o fewn pellter cerdded.  Mae gennym ni nifer cyfyngedig o drwyddedau parcio am ddim ar gyfer maes parcio Cei Llechi. Galwch heibio’r dderbynfa cyn mynd i’r maes parcio (os oes rhai ar gael).
  • Derbynfa ar agor 7am tan 9am.
  • 47 o ystafelloedd ensuite wedi’u rhannu ar draws 4 adeilad
  • 2 ardal fwyta, 2 far ac ardaloedd bwyta ac yfed yn yr awyr agored
  • Lle cyfyngedig i storio bagiau

Ystafelloedd yn cael eu glanhau’n ddyddiol​

CYSYLLTIEDIG

Yn Nhafarn y Black Boy rydyn ni’n gwerthfawrogi y bydd rhai o’n gwesteion yn dymuno anfon e-bost neu ddau, neu bori’r rhyngrwyd, a dyna pam ein bod yn darparu mynediad di-wifr i’r rhyngrwyd yn ein holl ardaloedd cyhoeddus a’n hystafelloedd i westeion.

  • Mynediad di-wifr i’r rhyngrwyd
  • Gwasanaeth argraffu/copïo
  • Tîm amlieithog​

YNGHYD

Rydyn ni’n croesawu teuluoedd yn Nhafarn y Black Boy

  • Maes chwarae cyhoeddus tu allan
  • Cadeiriau uchel ar gael yn yr ardaloedd bwyta a’r bariau (gofynnwch i aelod o staff)
  • Cyfleusterau newid babanod ar gael yn y toiledau anabl
  • Bwydlen i blant ar gael
  • Rydyn ni’n gofyn i’r holl blant adael ardaloedd y bar erbyn 9pm.
  • Mae cotiau a gwlâu Z ar gael mewn nifer cyfyngedig o ystafelloedd am dâl ychwanegol. Cofiwch archebu eich ystafell gyda ni’n uniongyrchol oherwydd dim ond llond llaw o ystafelloedd addas sydd ar gael.
  • Ni chaiff plant fynd at y bar.
  • Rhaid cadw llygad ar blant bob amser. Peidiwch â gadael iddyn nhw redeg o gwmpas oherwydd rydyn ni’n dafarn brysur iawn ac mae diodydd a bwyd poeth yn cael eu cario drwy’r adeilad yn gyson.​

ADFYWIO

Rydyn ni’n gwneud gwaith cynnal a chadw yn y cefndir i wneud yn siŵr bod ein holl ystafelloedd ac ardaloedd cyhoeddus mor gyfoes â phosib, ac wrth gwrs i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd safon Croeso Cymru, yr AA a’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol. Rydyn ni’n defnyddio’r misoedd tawel i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith er mwyn osgoi tarfu ar ein gwesteion.  Y datblygiad mawr diweddaraf yw’r estyniad i’n hiard a’n cerbyty. Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddaraf.