fbpx

EIN LLEOLIAD

Ydych chi’n dymuno edmygu morlin hardd a mynyddoedd mawreddog Eryri, neu’n awyddus i archwilio eich ochr anturus drwy roi cynnig ar weithgareddau awyr agored? Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mae Tafarn y Black Boy yn hawdd ei gyrraedd yn y car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae map o dref Caernarfon ar gael yma (delwedd JPEG)

Cost ein maes parcio yw £10.00 fesul arhosiad dros nos. Mae system giât ar waith yn ein maes parcio bach wrth ymyl y dafarn. Mae hwn wedi’i gadw ar gyfer deiliad bathodyn glas. Mae trwydded am ddim ar gael yn y dderbynfa i chi barcio ym maes parcio Cei Llechi pan fyddwch yn aros gyda ni.

I lwytho ein map o ogledd Cymru i lawr, yn ogystal â’r cyfarwyddiadau fel PDF, cliciwch y ddolen ganlynol:  Map a Chyfarwyddiadau (.pdf 747kB).

Mewn car

Mae Tafarn y Black Boy ar Stryd Pedwar a Chwech o fewn muriau’r dref. LL55 1RW ydy’r cod post. Ar ôl cyrraedd Caernarfon, edrychwch am arwyddion Doc Fictoria. Ar ôl cyrraedd y dociau (a fydd ar eich dde), edrychwch yn syth o’ch blaen a byddwch yn gweld y dafarn drwy furiau’r dref.

Ar gyfer ein hunion leoliad, defnyddiwch https://w3w.co/hangs.rail.remain ar What 3 words​

Ar y trên

Rydyn ni 15 munud i ffwrdd mewn car o orsaf drenau Bangor. Mae safle tacsis a gwasanaeth bysiau i Gaernarfon ar gael ger mynedfa’r orsaf. Mae trenau o Gaer, Crewe, Manceinion, Llundain Euston, Caerdydd a Chaergybi yn cyrraedd gorsaf Bangor.

Dim ond 3 awr ac 20 munud mae’r trên yn ei gymryd o Lundain Euston (ar drenau uniongyrchol ar adegau penodol o’r diwrnod).  I gael yr amseroedd trên a’r prisiau, ewch i https://www.nationalrail.co.uk

Yn yr awyr

Dim ond 24 milltir i ffwrdd ar yr A55 yw Maes Awyr Môn ac mae modd hedfan yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd yn ystod yr wythnos.

Mae Maes Awyr Caernarfon lai na 6 milltir i ffwrdd ac mae’n agored i awyrennau preifat.

Mae Maes Awyr Lerpwl John Lennon 90 milltir i ffwrdd ar yr M56, A55 ac A487.

Mae Maes Awyr Manceinion 98 milltir i ffwrdd ar yr M56, A55 ac A487.

Ar y môr Stenaline, Irish Ferries.

Mae’n hawdd ein cyrraedd o Iwerddon, a hynny drwy borthladd Caergybi a rhwydwaith ffyrdd ardderchog. O Gaergybi, dilynwch yr A55 gan adael ar Gyffordd 9 (y fynedfa allan gyntaf ar ôl Pont Britannia) a dilyn yr A487, gan ddilyn yr arwyddion am Gaernarfon.

Os ydych chi’n teithio ar droed, mae modd cael trên o Gaergybi i Fangor, sy’n para 30 munud, ac yna bws o Fangor i Gaernarfon, sy’n para 20 munud.