fbpx

Swît Frenhines – Mynediad Hawdd

Room 41 DSC_4748
Apartment Suite in Wales Kitchen
Apartment Suite in Wales Kitchen
Room 41 DSC_4763
TY-DRE-FLOWERS-
DSC_6521
Room 41 DSC_4748 Apartment Suite in Wales Kitchen Apartment Suite in Wales Kitchen Room 41 DSC_4763 TY-DRE-FLOWERS- DSC_6521

Gallai’r ystafell ei hun fod ychydig yn wahanol i’r lluniau oherwydd ei bod wedi’i diweddaru – ffoniwch am fanylion

​Mae Tŷ Dre yn adeilad 200 llath i ffwrdd ar y Stryd Fawr, ac yn yr adeilad hwn mae’r math hwn o ystafell.

Gweinir brecwast yn y dafarn, a dyna lle mae’r dderbynfa hefyd.

Mae’r swît hyfryd hon, sydd wedi’i steilio’n gain, yn ddelfrydol i westeion â symudedd cyfyngedig ac mae’n addas i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

Mae ganddi wely maint brenhines moethus.

(Gellir darparu dau wely sengl ar gais).

Mae’r ystafell yn fawr ac yn agored, ac yn cynnwys nodweddion gwreiddiol.

Mae cegin fach hefyd, yn ogystal â chawod ensuite gyda chanllaw cydio a sedd.

Mae canllaw cydio a chyfleusterau cymorth mewn argyfwng yn y toiled.

Mae teledu sgrin fflat 42” a Wi-Fi ffeibr am ddim.

Yn yr ystafell mae sychwr gwallt, haearn smwddio, bwrdd smwddio, ffonau deialu uniongyrchol, matresi dwfn, dillad gwely gwyn ffres, tywelion gwlanog, eitemau ymolchi moethus a hambwrdd lletygarwch.

 

GWLÂU
UN GWELY MAINT BRENHINES

ENSUITE
CAWOD MYNEDIAD HAWDD

I FAINT O BOBL
2 OEDOLYN

NODWEDDION ARBENNIG

Gwlâu Maint Brenhines

Cegin fach

Teledu LCD Sgrin Fflat

Cawod Mynediad Hawdd

Tywelion Gwlanog

Eitemau Ymolchi Moethus

Cynigion Arbennig

Talebau Rhodd

Cynllun Ffyddlondeb

Bwyty A Bar