fbpx

EIN HANES

Mae Tafarn y Black Boy, yn nwfn yn nhref hanesyddol Caernarfon, wedi bod yn lloches galonogol i deithwyr blinedig am ganrifoedd. Cafodd ei adeiladu tua 1522 ac mae’n un o dafarndai hynaf Cymru.

Dros y blynyddoedd mae wedi cael yr enwau ‘King’s Arms’ a ‘Fleur de Lys’, cyn i un landlord brynu cyfranddaliad y llall a chreu Tafarn y Black Boy fel y mae heddiw. Cyn 1828, ‘Black Boy’ oedd ei enw.

Wedi’i lleoli yn Stryd Pedwar a Chwech, Tafarn y Black Boy yw un o’r ychydig dafarndai sy’n berchen i fusnes teuluol annibynnol sy’n dal yn bodoli yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi waliau cynnal pwysau hyd at fetr a hanner o drwch, a phedwar arwydd allanol yn dangos ‘bwi du’ ar un ochr a ‘bachgen du’ ar y llall.

Mae o leiaf tair theori i esbonio tarddiad yr enw. Mae un yn ymwneud â bachgen du a ddaeth i’r wlad ar long. Mae un arall yn awgrymu ei fod yn gysylltiedig â bwi morlywio a oedd yn yr harbwr yn nyddiau cynnar y dafarn. Mae’r trydydd yn cyfeirio at y llysenw a roddwyd i Charles II gan ei fam a’r ffaith fod brenhinwyr yn cwrdd yn gyfrinachol yma ar yr adeg honno.

Stryd Pedwar a Chwech

Yn y dyddiau a fu, Stryd Pedwar a Chwech oedd canolbwynt ardal golau coch y dref. Ystyr ‘pedwar a chwech’ yw pedwar swllt a chwe cheiniog – tua 22 ceiniog yn arian heddiw. Yn ôl y sôn, roedd hynny’n prynu ystafell, potel o jin a merch am y noson i chi!

O’r stryd hwn mae golygfa dda o fur gwylio’r dref, ei dyrau a’r grisiau cerrig sydd mewn cyflwr da ac sy’n dyblu trwch y wal. Y gobaith yw y bydd hi’n bosib yn y pen draw i gerdded ar hyd yr adran hon o’r mur yr holl ffordd at borthdy Stryd y Porth Mawr.

Cafodd y porth bwaog ar ddiwedd Stryd Pedwar a Chwech ei ychwanegu yn y 19eg ganrif i helpu i hwyluso llif y traffig i mewn ac allan o’r hen dref. Nid oedd yn rhan o ddyluniad gwreiddiol muriau’r dref.

Diddordebau Archaeolegol

Yn yr 1990au, cafodd gwaith cloddio ei wneud gerllaw a chafwyd hyd i sgerbwd dynes. Daeth yr archaeolegwyr i’r casgliad ei bod wedi cael ei chladdu yno i arbed cost angladd. Yn fwy diweddar, wrth wneud gwaith adfer yn Nhafarn y Black Boy, daeth y gweithwyr o hyd i amrywiaeth o eitemau o dan lawr yr ystafell fwyta gan gynnwys esgid plentyn, pibellau clai ac, yn anarferol, esgyrn gên anifail.

I’r rhai â diddordeb mewn archaeoleg, mae rhaglen barhaus o gloddiadau archaeolegol yn cael eu cynnal o fewn muriau’r dref gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.

Un o nodweddion diddorol eraill Tafarn y Black Boy yw presenoldeb honedig ysbryd lleian yn pasio drwy’r dafarn i’r lleiandy, a oedd arfer bod yng nghefn y dafarn.

Porthdy Stryd y Porth Mawr

Y porth hwn oedd prif fynedfa’r hen dref gaerog, ac felly’r un oedd yn cael ei gwarchod yn fwyaf gofalus. Cafodd ei adeiladu’r un pryd â’r Castell, gyda rhagfur allanol a phont godi bren, a gafodd ei disodli gan bont chwe bwa sefydlog.

Roedd yr ystafelloedd uwchben y porth yn gartref i’r Trysorlys yn 1824 fel canolfan weinyddol ac ariannol siroedd Caernarfon, Ynys Môn a Merioneth. Roedd cloch cyrffyw’r dref yma hefyd. Roedd unrhyw breswylydd nad oedd o fewn muriau’r dref erbyn 8pm yn cael ei gloi allan tan 6am y bore canlynol.

Ar un adeg, roedd cloc mawr wedi’i oleuo gan olau nwy â phedwar wyneb yn ei dwr uchel. Roedd rhaid tynnu hwn gan ei fod yn camarwain cychod hwylio a oedd yn ceisio cyrraedd yr harbwr yn ddiogel yn y nos. Yn yr 1830au, roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel carchar a gwyldy.

Yn 1767, cafodd y lloriau uwch eu mabwysiadu fel neuadd urdd y dref. Mae addasiadau eraill yn 1833 ac 1873 wedi’u nodi gan lechen ym mynedfa’r porth. Bellach mae cynlluniau ar waith i droi’r hen borthdy yn safle treftadaeth ac amgueddfa’r dref.