fbpx

CWESTIYNAU CYFFREDIN

See our common frequently asked questions below. For up to date information and any questions you may have visit our knowledge hub.

CYFFREDINOL

Oes lifftiau ar gael?

Does gennym ni ddim lifft yn unrhyw ran o gyfadeilad y Black Boy o ganlyniad i oedran yr adeiladau.

Oes Wi-Fi ar gael?

Oes, gallwch chi gofrestru i gael Wi-Fi am ddim.

Ydych chi’n derbyn anifeiliaid anwes?

Dydyn ni ddim yn derbyn anifeiliaid anwes yn unrhyw ran o’r adeilad (ac eithrio cŵn cymorth).

Oes modd storio bagiau?

Mae gennym ni rywfaint o le i storio bagiau yn y dderbynfa. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gadael unrhyw beth ar ôl wrth adael.

Ydych chi’n cynnig adloniant yn yr ystafelloedd bwyta neu weithgareddau?

Mae gennym ni bolisi nad yw’n caniatáu unrhyw fath o adloniant yn yr ystafelloedd bwyta neu weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys disgo a bandiau byw. Rydyn ni’n gweithredu’r polisi hwn er mwyn i’n cymdogion a’n preswylwyr ein hunain gael noson dawel ar ôl i’r dafarn gau.

Beth yw safon eich adeiladau?

Cafodd Tafarn y Black Boy ei adnewyddu yn 2016. Cafodd datblygiad Jac Ddu, adeilad ar wahân yn iard y dafarn, ei gwblhau yn 2013. Cafodd Tŷ Dre ei gwblhau yn 2014 a chafodd ein heiddo diweddaraf, Twr Du, ei gwblhau yn 2019. Mae pob un o safon pedair seren.

Pwy sy’n eich graddio?

Rydyn ni’n cael ein graddio’n flynyddol gan Croeso Cymru a’r AA. Ers 2016 mae’r ddau sefydliad hyn wedi rhoi pedair seren i ni fel tafarn sy’n westy.

Allwch chi roi map o’r ardal leol i mi?

Mae map o Gaernarfon ar gael yma

ARCHEBU

Beth sydd ei angen arnaf i archebu ystafell?

Bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch chi i archebu ystafell. Rydyn ni’n defnyddio Trust Payments/Secure Trading i gadw’r holl fanylion cerdyn i’ch diogelu chi. Rydyn ni’n cydymffurfio’n llawn â Diwydiant y Cardiau Talu. Os ydych chi’n dymuno bilio bwyd a diod i’ch ystafell a thalu wrth adael, bydd angen i chi awdurdodi cerdyn ymlaen llaw ar gyfer eich arhosiad neu dalu’r cyfanswm yn ogystal â £30.00 y person y noson. Dyma fydd y broses awdurdodi ymlaen llaw lawn, ar ôl cytuno ar y bil terfynol wrth adael byddwn yn cwblhau’r broses awdurdodi ymlaen llaw ar gyfer cyfanswm eich bil terfynol.

Ydych chi’n derbyn archebion gan grwpiau mawr?

Dim ond Rheolwr Tîm sy’n gallu derbyn archebion gan grwpiau o 5 ystafell neu fwy. Bydd angen blaendal hefyd.

CYRRAEDD A GADAEL

Faint o’r gloch fydd fy ystafell yn barod?

Bydd eich ystafell yn barod o 3pm ymlaen.

Faint o’r gloch mae’n rhaid i mi adael?

Rhaid i chi adael erbyn 11am.

Dwi’n disgwyl cyrraedd yn hwyr yn y nos, ydy hyn yn iawn?

Os ydych chi’n bwriadu cyrraedd ar ôl hanner nos, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni beth yw’r amser cyrraedd disgwyliedig. O ganlyniad i natur yr adeilad, ni fydd y staff nos yn eich gweld wrth y prif ddrws bob amser.

YSTAFELLOEDD

Pa fath o wlâu sydd ar gael?

Mae gwlâu pâr neu ddwbl ar gael yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd. Rhowch wybod i ni’n uniongyrchol os hoffech chi rannu’r gwely yn ddau sengl. Peidiwch â chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod eich dewis, oherwydd dydy rhai asiantiaid ddim yn rhoi gwybod i ni. Bydd y rhan fwyaf o westeion yn cael nifer o e-byst gennym ni cyn cyrraedd os yw’r asiant wedi rhoi eu cyfeiriad e-bost i ni.

Ydych chi’n gallu cyflenwi gwlâu Z ychwanegol?

Dim ond ambell ystafell sy’n gallu cael gwely Z felly cysylltwch â ni cyn archebu. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd modd cael un yn eich ystafell, oherwydd efallai na fydd hynny’n wir.  Codir tâl am archebu ystafell â gwely Z.

Oes modd i mi archebu ystafell ar y llawr gwaelod?

Mae gennym 4 ystafell mynediad hawdd ar y llawr gwaelod yn Jac Ddu a Tŷ Dre. Mae ganddynt gawodydd cerdded i mewn. Os ydych chi’n cael trafferth dringo grisiau, archebwch un o’r rhain oherwydd mae’r dafarn yn gul iawn gyda thrawstiau isel, oherwydd ei oedran, a does dim ystafelloedd ar y llawr gwaelod yno, ac mae llawer o risiau yn yr adeiladau eraill a dim lifftiau.

Oes system wresogi / aerdymheru yn yr ystafelloedd?

Mae gwres canolog llawn ym mhob ystafell, ond nid system aerdymheru oherwydd oedran yr adeiladau.

PARCIO

Oes gennych chi leoedd parcio?

Mae parcio am ddim ar gael yng Nghaernarfon, ond mae’n gyfyngedig. Bydd y rhai sy’n cyrraedd gyntaf yn cael trwydded i gael lle am ddim ym maes parcio’r castell tua 1000 llathen o’r dafarn (os oes rhai ar gael). Y cyngor lleol sy’n berchen ar y maes parcio bach ger y dafarn. Mae’n costio £5 y dydd i ddefnyddio hwn (dim tâl i ddeiliaid bathodyn glas). Mae meysydd parcio cyhoeddus o gwmpas y dafarn ar gael am ddim rhwng 17.00pm a 9.30am y diwrnod canlynol.

Byddaf yn aros yn Tŷ Dre, oes lleoedd parcio ar gael?

Mae parcio am ddim ar gael yng Nghaernarfon, ond mae’n gyfyngedig. Bydd y rhai sy’n cyrraedd gyntaf yn cael trwydded i gael lle am ddim ym maes parcio’r castell tua 1000 llathen o’r dafarn (os oes lleoedd ar gael). Y cyngor lleol sy’n berchen ar y maes parcio bach ger y dafarn. Mae’n costio £5 y dydd i ddefnyddio hwn (dim tâl i ddeiliaid bathodyn glas). Mae meysydd parcio cyhoeddus o gwmpas y dafarn ar gael am ddim rhwng 17.00pm a 9.30am y diwrnod canlynol.

Oes modd i mi archebu lle parcio?

Does dim modd i ni gadw lleoedd parcio i westeion gan nad ydym yn berchen ar ein maes parcio ein hun.

BWYD

Faint o’r gloch mae brecwast?

Mae amser brecwast yn gallu bod yn eithriadol o brysur os yw’r holl westeion yn cyrraedd ar yr un pryd. 9.00am yw’r amser prysuraf, yn enwedig ar y penwythnos. Dewch yn gynt na hyn os oes angen i chi adael yn gynnar. 7.00am tan 9.30am yw’r amser gweini brecwast yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn, a 7.30am tan 10.00am yw’r amser ar ddydd Sul.

Ydy brecwast wedi’i gynnwys?

Ydy, mae brecwast wedi’i gynnwys. Archebwch ar ein gwefan ni (yn amodol ar y pecyn a archebir).

TALU

Gyda phwy alla i gysylltu ynghylch unrhyw broblemau talu?

Cysylltwch â thîm y dderbynfa rhwng 9am a 9pm ar reception@black-boy-inn.com neu 01286 673604