fbpx

Polisi Amgylcheddol

​Mae Tafarn y Black Boy wedi ymrwymo i roi mesurau rhagweithiol ar waith i helpu i ddiogelu a chynnal yr amgylchedd lleol, cenedlaethol a byd-eang i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Cyfarwyddwyr yn cydnabod effaith eu camau gweithredu ar yr amgylchedd ac yn anelu, drwy gynyddu eu dealltwriaeth mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hyn, at leihau unrhyw effeithiau niweidiol. Drwy gydweithio gallwn greu amgylchedd diogel a glân, a sicrhau bod materion amgylcheddol ar flaen meddyliau pawb ac yn cael sylw priodol bob amser.

Dyma ein nodau:

  • Cydymffurfio’n llawn â’r gyfraith, deddfwriaeth a rheoliadau presennol, a mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol ar gyfer gofynion neu rwymedigaethau cyfreithiol yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod gan bawb yn y cwmni ddyletswydd gofal dros yr amgylchedd, ei gynefinoedd a bioamrywiaeth.
  • Annog ein cyflogeion i weithio mewn modd amgylcheddol gyfrifol.
  • Ceisio cadw adnoddau naturiol drwy sicrhau bod ynni, dŵr a deunyddiau’n cael eu defnyddio’n gyfrifol, gan barhau i ddarparu’r ansawdd gwasanaethau y mae ein gwesteion yn ei ddisgwyl ar yr un pryd.
  • Mesur perfformiad a gosod amcanion a fydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gyda’r nod o wella’n barhaus drwy leihau, ailddefnyddio neu ailgylchu mewn meysydd fel defnyddio dŵr, cynhyrchu deunyddiau gwastraff a defnyddio ynni.
  • Cael cefnogaeth ein cwsmeriaid a gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’n polisi amgylcheddol.
  • Cael gafael ar gynnyrch sy’n cael effaith isel ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys eitemau fel pecynnau, cynnyrch gellir eu hailgylchu, defnyddio gwasanaethau a chynnyrch lleol, a chyfarpar trydanol sy’n effeithlon o ran ynni.
  • Gweithio gyda’n cyflenwyr a chontractwyr i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’n polisi, a bod ganddynt bolisïau cyfatebol ar gyfer rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd.
  • Cynnal adolygiadau’n rheolaidd i sicrhau bod gweithrediadau’r gwesty’n parhau i gydymffurfio â’r polisi hwn ac i osod neu ddiwygio targedau i sicrhau gwelliant parhaus yn y dyfodol.
  • Darparu ein holl gyflogeion â’r wybodaeth, y cyfarwyddiadau a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i gydymffurfio â’r polisi hwn.

J. S. Evans

4 Ebrill 2013