fbpx

ARCHEBU BWRDD YN Y BWYTY

Archebwch fwrdd ar-lein drwy’r wefan.

Profi ac Olrhain cyn archebu www.guestvisit.co.uk/1088

Llenwch eich manylion pan fyddwch yn cyrraedd y dafarn.

Trac /Trace cyn archebu www.guestvisit.co.uk/1088

Dyma eglurhad o’r rheolau cofrestru er mwyn dod i mewn i adeiladau yn unol â rheolau COVID.

Bydd angen i chi sganio ein cod QR Profi ac Olrhain mewnol cyn dod i mewn, a darparu ID i gadarnhau eich enw, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost.

Bydd angen i chi ddangos ID i ni cyn dod i mewn i’r adeilad er mwyn cadarnhau eich enw ac ati ar gyfer Profi ac Olrhain. Dim ond copi o basbort neu drwydded yrru ac ati fydd ei angen arnom. Bydd angen i bob gwestai ddarparu hyn.

Mae’r Llywodraeth yn awgrymu eich bod yn llwytho ap COVID-19 y GIG i lawr. Bydd hwn yn eich rhybuddio os ydych chi wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi’i heintio.

Dylai cwsmeriaid wisgo masg wyneb bob amser heblaw pan fyddant yn eistedd.

Dylai staff wisgo masg wyneb bob amser.

Bydd ein ap archebu ar-lein ar gael cyn bo hir.

Amseroedd Gweini Bwyd / Archebu Bwrdd yn y Bwyty

  • O ddydd Sul i ddydd Iau: Hanner dydd tan 9.00pm
  • Dydd Gwener a dydd Sadwrn: Hanner dydd tan 9.30pm

Oherwydd natur ein busnes, dim ond 10% o’n holl fyrddau y byddwn ni’n eu cadw hyd at 18.30pm. Ar ôl yr amser hwn, byddwn yn gweithredu polisi cyntaf i’r felin. Dim ond yr amseroedd archebu sydd ar ôl fydd yn cael eu dangos ar y wefan. Caiff pob bwrdd a gaiff ei archebu ar-lein ei osod yn y Cerbyty. Mae’n bur debyg y bydd yn rhaid i chi aros cyn cael bwrdd ar ôl cyrraedd, eto mae hyn o ganlyniad i natur brysur y dafarn.   Rydyn ni wedi sylwi bod gwesteion yn archebu mwy nag un bwrdd ac yna’n gofyn i’r byrddau gael eu gosod gyda’i gilydd ar gyfer un grŵp. Ni fydd hyn yn bosibl gan fod y feddalwedd yn dyrannu’r byrddau’n awtomatig i ardaloedd gwahanol yn yr ystafell.

Nid ydyn ni’n caniatáu cŵn mewn unrhyw ran dan do o’r dafarn.
Hefyd nid yw’n bosib archebu bwrdd yn ardaloedd y bar neu’r ardaloedd tu allan.

I archebu ar gyfer grŵp mawr (mwy nag 8 person), e-bostiwch reception@black-boy-inn.com

Cadarnhad E-bost:   Dim ond pan fyddwch chi’n cael cadarnhad gan reception@black-boy-inn.com y bydd bwrdd wedi’i archebu ar-lein yn ddilys. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir yn cynnwys y dyddiad cyrraedd, amser archebu ac ati. Ni ellir ein dal ni’n gyfrifol am unrhyw wallau ar ran yr unigolyn sy’n archebu.

Sylwer: Rhaid cael cerdyn credyd neu ddebyd er mwyn archebu bwrdd yn y bwyty. Rhaid cael hwn i gadarnhau eich archeb. Ni fydd unrhyw arian yn cael ei gymryd o’ch cyfrif banc oni bai fod neb yn dod. Os bydd neb yn dod, rydyn ni’n cadw’r hawl i godi ffi o £10 y person a fydd yn cael ei ddebydu o’ch cerdyn credyd neu ddebyd. (Rhaid canslo 24 awr cyn y dyddiad y mae’r bwrdd wedi’i archebu ar ei gyfer, ac eithrio archebion grŵp adeg y Nadolig sydd â thelerau gwahanol).

Er mwyn ymuno â’r rhestr aros, a fydd yn gweithredu ar ôl llenwi’r nifer fach o archebion bwrdd,  rhaid holi yn bersonol yn y Gwesty ar y diwrnod/noson i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cynnig bwrdd i chi cyn gynted ag y bydd un ar gael. Mae’r system hon yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau tegwch i’n cwsmeriaid i gyd, ond gall newid. Byddai’r system draddodiadol ar gyfer archebu bwrdd yn y bwyty yn creu rhestr aros a fyddai’n golygu bod yn rhaid archebu bwrdd hyd at wyth wythnos ymlaen llaw. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn deall y rhesymau am y rheol hon fel yr amlinellir uchod. Os oes gennych chi archeb gyda ni yn un o’n hardaloedd bwyta, gwnewch yn siŵr bod y maître D’ wrth ddrws yr ardal fwyta yn gwybod eich bod chi wedi cyrraedd, neu fel arall ni allwn sicrhau’r bwrdd i chi. Mae gennym ni bolisi o ryddhau’r byrddau sydd wedi’u harchebu i’w hailwerthu os nad ydy’r sawl sydd wedi archebu yn cyrraedd o fewn 10 munud.

Rydyn ni’n gweithredu polisi cyntaf i’r felin. Bydd yr archebion bob amser yn y Cerbyty ond gallwn ddefnyddio ein disgresiwn i newid hynny ar adegau prysur.

Amseroedd brecwast

7.00am – 9.30am, (dydd Sul 7.30am – 10.00am). Caiff brecwast ei weini i westeion yn y Cerbyty ac, yn dibynnu ar niferoedd, yn yr ardal fwyta flaen. Rydyn ni hefyd yn cynnig brecwast i bobl sy’n galw heibio hyd at 11.30am yn ardaloedd y bar.

Fel arfer, yr amseroedd prysuraf ydy 30/45 munud olaf y gwasanaeth.  Cofiwch ddod i lawr yn gynnar os oes angen i chi adael yn gynnar gan fod pob brecwast yn cael ei goginio ar archeb. Os bydd ein holl westeion yn dod i lawr gyda’i gilydd, mae’n bosibl y bydd rhywfaint o aros. Mae bore dydd Sul am 9.00am bob amser yn amser prysur i’w osgoi.

Tipio

Caiff ‘tips’ eu rhannu’n deg ymysg yr holl staff.


 

Mae’r dolenni isod ar gyfer archebion grŵp adeg y Nadolig a phartïon mwy o faint yn unig.

Ffurflen gais i archebu ar gyfer grwpiau, i’w dychwelyd i’r dderbynfa

Ffurflen archebu ymlaen llaw i grwpiau

Cynllun Byrddau i Grwpiau yn y Cerbyty