gwasanaethau
ymlacio
Yn Nhafarn y Black Boy rydym yn gweithio’n galed i gynnig gwasanaeth personol. O’r funud y cyrhaeddwch ein gwesty cyfeillgar, mae’r staff bob amser wrth law i’ch helpu ac i rannu eu gwybodaeth leol.
MANYLION
• brecwast llawn
• parcio am ddim
• desg dderbynfa
• ystafelloedd gwely
• bwyta
• yfed
• storfa ar gyfer bagiau
• gwasanaeth golchi
a glanhau
cysylltu
Yn Nhafarn y Black Boy rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhai o’n gwesteion am anfon ambell i e-bost neu syrffio’r we, a dyna pam y cynigiwn fynediad di-wifr a di-dâl i’r Rhyngrwyd yn ein mannau cyhoeddus i gyd ac ym mhob ystafell wely.
MANYLION
• mynediad di-wifr, di-dâl
• a chyflym i’r Rhyngrwyd
• gwasanaeth ffacs /
llungopïo di-dâl
• tîm amlieithog
• cyfrifiadur i westeion
• lolfa i westeion
gyda’n gilydd
Yn Nhafarn y Black Boy rydym yn croesawu teuluoedd yn gynnes iawn. Gallwch fod yn sicr y byddwn yn gofalu am yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.
MANYLION
• cotiau ar gael drwy
wneud cais
• bwydlen i blant
• maes chwarae
• cyhoeddus i blant bach
• cadeiriau uchel
• cyfleusterau newid babi
adfywio
Yn ystod eich arhosiad yn Nhafarn y Black Boy, pam na ewch am dro i weld ein Castell godidog, neu weld Doc Fictoria ar ei newydd wedd? Dim ond rhai milltiroedd ymhellach yn y car yw’r Wyddfa ac Ynys Môn.
