lluniaeth
Yn Nhafarn y Black Boy, gyda’i distiau derw gwreiddiol, ei waliau trwchus a’i dodrefn cyfnod, rydym yn cynnig bwyd ardderchog wedi’i goginio gyda chynhwysion lleol o gig eidion Cymreig i gregyn gleision o’r Fenai, mewn awyrgylch traddodiadol a chroesawus.
P’un ai swatio wrth y lle tân yr ydych am ei wneud i fwynhau dewis o’r cwrw gorau neu ymuno â chriw o ffrindiau i ddathlu’r Nadolig, bydd awyrgylch hamddenol ac anffurfiol Tafarn y Black Boy yn cynnig encil braf o’r prysurdeb a’r bwrlwm.
